Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Gofynnwch am ddyfynbrisiau realistig a defnyddiwch nhw i baratoi cyllideb. Sicrhewch fod canllawiau eich cyllideb yn cyd-fynd â’r amcanion a osodwyd gennych ar gyfer eich gŵyl/digwyddiad.

Edrychwch am gyllid addas drwy grantiau, cymorthdaliadau, rhoddion a chyfraniadau mewn da. Dylech edrych am gynlluniau gyda meini prawf sy’n cyd-fynd â’r math o ŵyl neu ddigwyddiad yr ydych yn ei gynnal. Efallai y gallwch sicrhau noddwr i gyd-fynd â’r digwyddiad, er enghraifft, gyda digwyddiad chwaraeon.

Ar wahân i Fanciau, Cymdeithasau Adeiladu, cyllid Preifat a Chyhoeddus, mae amryw o gynlluniau marchnata a chynlluniau grantiau bach ar gael ar gyfer arwyddion dwyieithog, twristiaeth gymunedol a phrosiectau tebyg.

Efallai y cewch gyllid gan gwmnïau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau penodol. Gweler, er enghraifft, Astudiaeth Achos 7.2 marathon Dyn v Ceffyl a noddir gan Bulmers Cider a William Hill.

Efallai y bydd angen i chi godi arian mewn dulliau eraill. Ystyriwch gynnal rafflau, cyngherddau, dramâu, pantomeimiau, arwerthiant cist car, neu godi tâl mynediad, ffi deiliaid stondin, neu werthu tocynnau, yn enwedig os yw’r digwyddiad yn gweithredu ar sail wirfoddol. Gweler Astudiaeth Achos 7.1 Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol.

Mae Bwrdd Croeso Cymru yn cefnogi twristiaeth a arweinir gan ddigwyddiadau ac yn gweithredu Cynllun Marchnata Digwyddiadau. Mae hwn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau newydd a digwyddiadau presennol sy’n cynnig ymagweddau newydd ac arloesol. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’ch digwyddiad fodloni’r meini prawf penodedig ar gyfer digwyddiadau mawr, allweddol neu nodedig.

Cyswllt e-bost: lorraine.davies@tourism.wales.gov.uk neu sara.lewis@tourism.wales.gov.uk Ffôn: 029 2047 5310

Gwefan Bwrdd Croeso Cymru: www.wtbonline.gov.uk.

Gellir hefyd cael cyngor gan Hwylusydd Lleol y Gronfa Ewropeaidd www.natfac.org.uk neu www.wefo.Cymru.gov.uk.

Mae strategaethau’r Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol yn cefnogi Gwyliau a Digwyddiadau rhanbarthol. Mae cynigion cyfyngedig ar gyfer marchnata am ddim ac i ariannu marchnata. Cysylltwch â'ch Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol am ragor o fanylion.

Partneriaeth Twristiaeth y Gogledd – www.tpnw.org

Partneriaeth Twristiaeth y Canolbarth – www.tpmw.co.uk

Uwch Ranbarth Twristiaeth - www.capitalregiontourism.org

Partneriaeth Twristiaeth y De Orllewin - www.swwtp.co.uk

Pwyntiau Allweddol:

  • Dylech baratoi cynllun wrth gefn rhag ofn na lwyddwch i gael cyllid digonol
  • Dylech deilwra’r digwyddiad yn ôl faint o gyllid sydd ar gael e.e. ystyried digwyddiad llai
  • Cysylltwch â’ch Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol er mwyn eich rhoi ar ben ffordd

Gweler Hefyd:

1.1 Syniad/Cysyniad
2.4 Cyllideb Ddrafft
2.8 Nawdd
3.2 Gwneud cais am gyllid
3.3 Gwneud cais am arwyddion
Adran 7 Rhestrau Cyswllt Ranbarthol