Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Pan fyddwch yn gwybod pa fath o ŵyl/digwyddiad yr ydych yn bwriadu ei gynnal, gallwch ddewis lleoliad addas. Sicrhewch eich bod yn ymweld â’r safle er mwyn asesu ei ymarferoldeb. Sicrhewch ei fod yn cwrdd â’r gofynion Iechyd a Diogelwch cyfreithiol.

Sicrhewch fod cyfleusterau a gwasanaethau’r lleoliad yn addas ar gyfer y prif ddigwyddiad. Meddyliwch yn ofalus am eich anghenion ar gyfer lle dan do ac yn yr awyr agored. Cofiwch ystyried cysgod dan do mewn tywydd gwael. (Gweler LLINELL AMSER 5.3 tywydd).

Sicrhewch fod y cyfleusterau a’r gwasanaethau yn addas ar gyfer unrhyw adloniant neu weithgareddau ymylol.

Dylech ystyried y canlynol cyn i chi ddewis lleoliad:

  • Sampl LLINELL AMSER Rhestr wirio 1.7 Dod o hyd i Leoliad. Defnyddiwch y meini prawf gwerthuso cyn i chi wneud y penderfyniad terfynol
  • Mynediad i’r safle ac arwyddion dwyieithog digonol
  • Agosrwydd at seilwaith lleol megis darparwyr llety
  • Mynediad i bobl anabl
  • Lle digonol ar gyfer gweithgareddau ychwanegol/ymylol
  • Llefydd parcio ar gyfer ceir, bysiau, mynediad i’r anabl
  • Ffensys o amgylch y ffiniau/diogeledd y safle
  • Gwasanaethau sylfaenol digonol megis dŵr, trydan a nwy
  • Darpariaeth toiledau ar y safle (gweithiwch ar sail 1 toiled i bob 50 o bobl, un wrinal i bob 150)
  • Argaeledd ar y dyddiadau a ddewiswyd
  • Cost llogi’r lleoliad a beth mae hyn yn ei gynnwys

Pwyntiau Allweddol:

  • Os oes amheuaeth, gofynnwch i’r Awdurdod Lleol neu’r Bartneriaeth Twristiaeth Ranbarthol am gyngor cyn cadarnhau’r lleoliad.
  • Gwiriwch fod llety amgen digonol ar y safle pe bai’r tywydd yn wael.
  • Gwiriwch fod yr ardal yn cwrdd â gofynion Iechyd a Diogelwch ar gyfer plant a phobl anabl.

Gweler Hefyd:

1.1 Syniad/Cysyniad
1.3 Cynhyrchu Amserlen Gynllunio
1.4 Ymchwilio, Gwirio a phennu dyddiad
1.7 Rhestrau gwirio LLINELL AMSER “Dod o hyd i Leoliad”
5.3 Tywydd
6.1 Lleoliad a Rhestrau gwirio
6.8 Cynlluniau wrth gefn a Rhestrau gwirio
Adran 7 – Rhestrau Cyswllt Rhanbarthol
Pecyn Cymorth Ar Gyfer Gwyliau a Digwyddiadau – Llinell Amser