Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Yn wreiddiol roedd gwyliau yn ddathliadau cyhoeddus ar gyfer yr holl gymuned. Roeddent yn aml yn seiliedig ar ddiwylliant, crefydd, hamdden, cerddoriaeth, adloniant, celfyddydau, golygfeydd a chwaraeon. Cawsant eu cynllunio yn lliwgar er mwyn creu argraff barhaol o hwyl.

Mae digwyddiadau fel arfer yn llai o faint. Maent yn tueddu i gael eu trefnu at ddiben penodol, megis maes busnes neu ddiddordeb arbennig, megis bwyd, hynafolion, barcutiaid neu dreialon cŵn defaid. Nid oes angen i ddigwyddiadau fod mor fawreddog â gwyliau, ond maent yn dal i anelu at ddod a grŵp o bobl at ei gilydd at ddiben penodol.

Meddyliwch yn ofalus am eich thema er mwyn denu eich cynulleidfa darged

Gallech adlewyrch eich thema drwy:

  • ddewis o addurniadau
  • cynllun lliw
  • logo
  • addurniad ystafell/llwyfan/arena
  • bwyd
  • gwisgoedd
  • addurniadau byrddau
  • napcynnau bwrdd
  • gwisgoedd diddanwyr ac artistiaid
  • baneri
  • effeithiau goleuo
  • cerddoriaeth
  • nwyddau

Sicrhewch fod yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir gennych yn wrthdan, yn gwrthsefyll dŵr a’r tywydd a'u bod yn cydymffurfio â safonau Iechyd a Diogelwch. Bydd y cyllid sydd ar gael i chi yn pennu faint y gallwch ei wario ar addurniadau.

Mae cyngor proffesiynol pellach ar gael gan:

  • eich cyngor lleol
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Eich Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol
  • Y siart LLINELL AMSER

Pwyntiau Allweddol:

  • Mae themâu’n ymwneud ag adeiladu amgylcheddau diogel a phleserus
  • Bydd eich cyllid yn pennu faint y gallwch ei wario ar themâu/addurniadau
  • Sicrhewch fod deunyddiau’r addurniadau yn wrthdan, gwrth-ddŵr ac yn gwrthsefyll y gwyn
  • Canolbwyntiwch ar ddiogelwch, a chydymffurfiwch â safonau’r HSE
  • Mae cynllunio digwyddiadau yn her, ond yn hwyl!

Gweler Hefyd:

1.1 Syniad/Cysyniad
1.7 Dod o hyd i leoliad
1.9 Sicrhau’r caniatâd angenrheidiol
1.10 Gwirio rhwymedigaethau cyfreithiol
2.4 Cyllideb Ddrafft
3.7 Datblygu Cynllun Gweithredu
Adran 7 – Astudiaethau achos