Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Bydd cynllunio gŵyl/digwyddiad yn golygu gwariant. Wedi i chi ffurfio pwyllgor trefnu, dylech benderfynu ar strwythur ariannol priodol drwy agor cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen i bob aelod o’r tîm sy’n ymwneud ag ochor ariannol y digwyddiad gwrdd â swyddogion perthnasol y Banc/Cymdeithas Adeiladu.

Bydd eich Banc/Cymdeithas Adeiladu yn gallu’ch cynghori ynglŷn â’r gweithdrefnau y dylech eu dilyn. Gweler Rhestr wirio 1.5, “Agor Cyfrif Banc”.

Holwch ynghylch pa fathau o brawf adnabod y bydd angen i chi eu dangos i’r Banc/Cymdeithas Adeiladu. Gall hyn gynnwys eich pasbort, trwydded yrru neu filiau cyfleustodau. Mae’n debygol y bydd yn rhaid i bawb sy’n ymdrin ag ochr ariannol y digwyddiad, yn cynnwys llofnodwyr y cyfrif, ymweld â’r banc gyda’i gilydd er mwyn cadarnhau pwy ydynt.

Trefnwch gyfarfod ar y cyd gyda swyddog perthnasol y Banc/Cymdeithas Adeiladu er mwyn cwblhau’r gwaith papur angenrheidiol.

Bydd angen i chi enwebu pa aelodau o’r tîm a gaiff eu hawdurdodi i lofnodi sieciau. Fel arfer mae angen o leiaf ddau lofnod er mwyn ysgrifennu sieciau, ac mae’n synhwyrol dilyn y weithdrefn hon er mwyn diogelu eich hun. Bydd y Banc/Cymdeithas Adeiladu yn gofyn i’r bobl hyn ddarparu samplau o’u llofnodion.

Gofynnwch pa mor hir y bydd yn ei gymryd i’r Banc/Cymdeithas Adeiladu agor eich cyfrif. Efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau dros dro ar gyfer arian parod a sieciau. Trefnwch i’r Banc/Cymdeithas Adeiladu anfon cyfriflenni banc rheolaidd at y Trysorydd.

Cadwch gofnodion manwl o’r holl incwm a gwariant. Gweithredwch bolisi o beidio â rhoi ad-daliadau heb dderbynebau gwariant gwirioneddol. Cadwch yr holl waith papur a phob derbynneb.

Pwyntiau Allweddol:
  • Penderfynwch pwy fydd yn gyfrifol am agweddau ariannol
  • Peidiwch â gweithredu cyfrifon digwyddiadau trwy eich cyfrif personol eich hun
  • Sicrhewch fod angen dau lofnod awdurdodedig ar gyfer pob siec
  • Cofnodwch holl incwm a gwariant busnes yn fanwl gywir
  • Sicrhewch fod treuliau a chostau o fewn y gyllideb

Gweler Hefyd:

1.5 Rhestr wirio LLINELL AMSER “Agor Cyfrif Banc”
1.8 Sicrhau Cyllid
2.4 Cyllideb Ddrafft
3.4 Cyllideb Derfynol
6.7 Gweinyddu