Cyn pennu dyddiad ar gyfer eich gŵyl/digwyddiad, gwnewch waith ymchwil ynglŷn â digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal. Sicrhewch eich bod yn osgoi cynnal unrhyw ddigwyddiad ar yr un pryd â digwyddiadau cyhoeddus mawr. Dylech wirio calendrau blynyddol, gwefannau rhanbarthol, sefydliadau lleol, papurau newydd, cyfryngau eraill a digwyddiadau cyhoeddus ehangach.
Bydd hefyd angen i chi ystyried yr amser yn arwain at y digwyddiad (cynllunio), niferoedd y mynychwyr a ragwelir, argaeledd y lleoliad, yr amser sydd ei angen ar gyfer caniatâd a thrwyddedau, sicrhau dyddiadau ar gyfer diddanwyr, artistiaid, gweithgareddau eraill a chyflenwyr, yn ogystal â chydlynu gyda’ch swyddogaethau busnes dyddiol parhaus.
Ystyriwch hyd y digwyddiad yn ofalus er lles busnesau lleol eraill, darparwyr llety ac atyniadau a chyflenwyr.
Efallai y bydd argaeledd y lleoliad a ddewisir gennych yn pennu dyddiad eich gŵyl/digwyddiad (1.7). Gwiriwch yn drwyadl er mwyn nodi’r dyddiadau gorau sydd ar gael i’w dewis o fewn y Siart LLINELL AMSER.
Ffynonellau defnyddiol:
Bwrdd Croeso Cymru: www.wtbonline.gov.uk
Partneriaethau Twristiaeth Ranbarthol (RTPs):
Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru: www.tpnw.org Ffôn:01745 589020
Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru: www.tpmw.co.uk Ffôn:01654 704220
Uwch Ranbarth Twristiaeth (De Ddwyrain Cymru): www.capitalregiontourism.org Ffôn: 029 2041 7194
Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru: www.swwtp.co.uk Ffôn: 01558 669091
Bwrdd yr Iaith Gymraeg: www.bwrdd-yr-iaith.org.uk
Pwyntiau Allweddol:
- Pennwch ddyddiad a chadwch ato - cofiwch, ni fydd unrhyw ddyddiad yn addas i bawb
- Cofrestrwch y dyddiad gyda’r Heddlu, y Bwrdd Croeso, Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol, y Ganolfan Groeso, Masnach, y Wasg a rhestrau digwyddiadau eraill
- Ymgynghorwch â’ch Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol
Gweler Hefyd:
1.7 Dod o hyd i Leoliad
2.2 Sicrhau y caiff y dyddiad ei gynnwys mewn Rhestrau Digwyddiadau
Adran 7 – Rhestrau Cysylltiadau Rhanbarthol