Mae angen i drefnwyr Gwyliau a Digwyddiadau gynllunio’r syniad yn ofalus, o’r cysyniad gwreiddiol hyd at y digwyddiad ei hun. Amlinellir amserlen sydd wedi’i rheoli’n dynn ac sy’n seiliedig ar amser yn y siart LLINELL AMSER i’ch helpu i wneud hyn.
Datblygwch raglen ddrafft gyda chynlluniau i arwain pob agwedd weithredol ar yr ŵyl/digwyddiad.
Mae’r Rhestr Wirio Canllaw Cynllunio Digwyddiadau LLINELL AMSER yn 1.3 yn dilyn cod lliwiau i’ch helpu i gynhyrchu amserlen gynllunio:
Coch = Angen Gweithredu ar Unwaith
Melyn = Camau Dilynol
Gwyrdd = Wedi’i chadarnhau a’i chwblhau
Gosod amcanion “CAMPUS”:
- Cyraeddadwy
- A mserol
- Mesuradwy
- P enodol
- U chelgeisiol
- S ynhwyrol
Bydd y rhain yn eich helpu chi i fesur llwyddiant eich digwyddiad.
Efallai y gwnewch chi benderfynu cynnwys digwyddiadau “ymylol” er mwyn ategu eich prif ddigwyddiad. Gall hyn greu diddordeb ac annog cynulleidfa ehangach. Er enghraifft arddangosfa tân gwyllt, arddangosiadau blodau/crefftau. Gweler yr Astudiaethau Achos yn Adran 7 LLINELL AMSER i gael syniadau.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cyhoeddi Canllaw Diogelwch Digwyddiad cynhwysfawr. Mae hwn yn ymdrin â phob agwedd ar drefnu digwyddiadau er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth.
Cyswllt: www.hse.gov.uk
Ffôn: 08701 545500
Ebost: hsegwybodaethservices@natbrit.com
Pwyntiau Allweddol:
- Bydd y maint a ragwelir yn pennu’r dewis o leoliad
- Ceisiwch osgoi dyblygu drwy ddiffinio cyfrifoldebau yn glir
- Cydlynwch unrhyw dasgau sy’n debygol o orgyffwrdd
- Ceisiwch osgoi unrhyw wrthdaro posibl drwy ddatblygu cysylltiadau cymunedol da
- Byddwch yn hyblyg ac yn barod i addasu
Gweler Hefyd:
1.3 Rhestr wirio LLINELL AMSER - Canllaw Cynllunio Digwyddiadau
1.6 Cadarnhau’r Cysyniad/Thema
Adran 2 Nodi ac Ymchwilio
Adran 3 Cynllun Rheoli
Adran 4 Cynllun Digwyddiadau Wrth Gefn
Adran 5 Arlwy
Adran 6 Rhoi Digwyddiad Ar Waith - Cynllun Gweithredol
Adran 7 Astudiaethau Achos