Mae’n debyg y bydd maint y grŵp yn dibynnu ar faint, hyd a’r math o ddigwyddiad. Fel arfer mae’n well cadw’r gweithgor yn fach, gydag un person yn cael cyfrifoldeb a gwybodaeth gyffredinol am y digwyddiad cyfan. Dylech benodi:
- Cadeirydd da sy’n gallu rheoli cyfarfodydd yn dyn o ran amser. Bydd cael cyfarfodydd trefnus yn annog aelodau i fynychu’n rheolaidd
- Ysgrifennydd i gadw cofnodion o’r cyfarfodydd, ymdrin â gwaith papur a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl
- Trysorydd i reoli cyllid
Cyn gynted ag y bydd amserlen gynllunio (1.3) wedi ei datblygu (e.e. unwaith y bydd stondinau bwyd, adloniant, ac ati wedi eu trefnu) gallwch ddechrau amlinellu cyfrifoldebau, dyletswyddau a thasgau a’u rhannu ymysg y grŵp trefnu.
Defnyddiwch y Siart LLINELL AMSER i’ch helpu i baratoi Rhestr o Gyfarfodydd. Cynlluniwch ddyddiadau’r cyfarfodydd hyd at ddechrau’r digwyddiad.
Cyfeiriwch at y Siart LLINELL AMSER a pharatowch Restr o Gyfarfodydd i gynnwys Dyddiadau’r cyfarfodydd hyd at ddiwrnod y digwyddiad. Dylech anelu at gyfarfod o leiaf unwaith y mis, ac yna unwaith bob pythefnos yn agosach at y digwyddiad.
Dylech dderbyn pob cynnig o help ar gyfer y digwyddiad, waeth pa mor fach. Mae hyn y eich helpu i fod yn gynhwysol.
Pwyntiau Allweddol:
- Dylech gadw maint y pwyllgor/gweithgor yn gymedrol
- Dylech ystyried anfon y wybodaeth ddiweddaraf dros yr e-bost os oes gan bob aelod fynediad i’r rhyngrwyd
- Rhannwch gyfrifoldebau ac amlinellwch dasgau yn glir
- Sicrhewch fod pawb yn deall y llinellau cyfathrebu a chadwch ysbryd y tîm yn gadarnhaol
Gweler Hefyd:
1.3 Cynhyrchu Amserlen Gynllunio
1.5 Agor Cyfrif Banc
1.6 Cadarnhau’r cysyniad/thema
1.11 Tîm Trefnu
2.1 Cadarnhau pwy sy’n gwneud beth
Adran 6 – Rhoi’r Digwyddiad ar Waith - Cynllun Gweithredol
Adran 7 – Astudiaethau Achos