Rhaid bod y tîm wedi ei drefnu’n dda. Dechreuwch drwy ddiffinio cyfrifoldeb bob person yn glir.
Fel arfer mae’n ddefnyddiol ysgrifennu cynllun busnes. Dylech gynnwys y nodau, amcanion a chanlyniadau disgwyliedig eich digwyddiad. Gallwch wedyn ddefnyddio hwn fel cynllun cyfathrebu ac offeryn marchnata.
Mynnwch gyngor proffesiynol ynglŷn ag ochr fusnes y digwyddiad, yn enwedig os ydych yn newydd i’r rôl hon.
Fel arfer, gweithredir a chefnogir gwyliau a digwyddiadau gan weithwyr di-dâl (Gweler Astudiaethau Achos Adran 7).
Os ydych yn rhagweld y bydd yr ŵyl neu’r digwyddiad yn datblygu i fod yn ddigwyddiad rheolaidd, gallech ystyried gweithredu yn y ffyrdd canlynol.
- Ar gyfer digwyddiadau dielw, gall y tîm trefnu ddod yn endid cyfreithiol drwy ffurfio cymdeithasiad corfforedig
- Gallech benderfynu ymuno â grŵp arall yn eich ardal, megis Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol (Er enghraifft, yn Sir Benfro, PAVS fyddai’r gymdeithas, ffôn. 01437 764551)
Mae manteision hyn yn cynnwys cyfleoedd cyllido, llai o amser cyfarfodydd a chyfrifoldeb ar y cyd.
- Gallwch hefyd ystyried mathau mwy ffurfiol o fusnesau, megis Unig Fasnachwr, Partneriaeth, Cwmni Anghyfyngedig, Cwmni Cyfyngedig neu Gwmni Cydweithredol
Mynnwch gyngor proffesiynol gan ymgynghorwyr busnes eich Awdurdod Lleol neu Gyswllt Busnes.
Rhagor o fanylion: www.companieshouse.gov.uk
Statws elusennol, cysylltwch â’r Comisiwn Elusennau www.charity-commission.gov.uk
Pwyntiau Allweddol:
- Cadwch y strwythur trefnu yn syml ac yn hawdd i’w ddefnyddio
- Mynnwch gyngor cyfreithiol a phroffesiynol
- Byddwch yn ymwybodol o atebolrwydd cyfreithiol
Gweler Hefyd:
1.2 Ffurfio Pwyllgor
2.1 Cadarnhau pwy sy’n gwneud beth
Adran 2-Nodi/Ymchwilio
Adran 3-Cynllun Rheoli
Adran 6 Rhoi Digwyddiad Ar Waith - Cynllun Gweithredol
Adran 7 Astudiaethau Achos