Caiff gwyliau/digwyddiadau eu rheoli gan ddeddfwriaeth a rheoliadau. Yn aml ceir cosbau llym am fethu â chydymffurfio â’r rhain, felly efallai y byddwch am gymryd cyngor cyfreithiol proffesiynol. Dylech ystyried y rheoliadau hyn wrth ddiffinio rolau a chyfrifoldebau pobl.
Gall fod yn ddefnyddiol cydweithio’n agos â’r cyngor lleol, gan ei fod yn aml yn arolygu gwyliau a digwyddiadau cymunedol a lleol.
Fel arfer trefnydd yr Ŵyl neu’r Digwyddiad sydd â’r atebolrwydd cyfreithiol dros y digwyddiad. Fel arall, gall grŵp neu bwyllgor rannu cyfrifoldeb ar y cyd – yn ôl y gyfraith, ystyrir eu bod yn ‘atebol ar y cyd ac yn unigol’.
Gall pwyllgor trefnu ar gyfer digwyddiad dielw ddod yn endid cyfreithiol drwy ffurfio cymdeithasiad corfforedig.
Sicrhewch fod gan isgontractwyr a chontractwyr hunangyflogedig yr yswiriant a’r polisïau asesiad risg perthnasol. Mynnwch gopïau o’r polisïau hyn ac o gytundebau a lofnodwyd, a sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â gofynion ac amodau cyfreithiol.
Efallai y byddwch am wirio bod yr agweddau canlynol wedi’u cwmpasu ynddynt
- Canslo
- Blaendaliadau
- Cosbau am gwblhau’n hwyr
- Deddf Disgrifiadau Masnach
- Darlledu/Cyfryngau
- Logo/nod masnach
- Dyletswydd Gofal fel rhan o Gyfrifoldeb Meddiannwr
- Cyflenwyr Nwyddau a Gwasanaethau
- Iechyd a Diogelwch
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd
- Rheoli Risg
- Rheoliadau Hylendid Bwyd
- Cymdeithas Lleoliadau Arddangosfeydd
Pwyntiau Allweddol:
- Mynnwch gyngor cyfreithiol e.e. gan yr Awdurdod Lleol, Cyfreithiwr, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Sicrhewch fod pob agwedd ar y gwaith o drefnu a gweithredu’r ŵyl/digwyddiad yn cydymffurfio â’r anghenion cyfreithiol
- Sicrhewch fod pob aelod o’r tîm yn deall cyfrifoldebau cyfreithiol y tîm
Gweler Hefyd:
1.9 Sicrhau’r caniatâd angenrheidiol
1.11 Tîm Trefnu
2.1 Cadarnhau pwy sy’n gwneud beth
2.3 Dechrau’r Broses o Sicrhau Caniatâd
2.5 Yswiriant – trefnu/cael dyfynbris
Adran 4 Cynllun Digwyddiadau Wrth Gefn
Adran 7 Astudiaethau Achos