Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Fel arfer cynhelir gwyliau a digwyddiadau at bwrpas penodol, dros dro. Yn aml maent yn parhau i gael eu cynnal yn flynyddol neu bob ddwy flynedd.

Gallant fod yn ddigwyddiadau hwyl, busnes neu addysgol, wedi’u cynnal dan do neu yn yr awyr agored, ac yn ddigwyddiadau cymunedol lleol neu’n gynadleddau ffurfiol. Gallant gael eu targedu tuag at ystod o ddibenion, oedrannau a diwylliannau.

Fodd bynnag, mae gan bob digwyddiad hyd, lleoliad a rheolaeth benodedig, ac mae proses LLINELL AMSER yn ffordd ddefnyddiol i’w cynllunio.

Yn aml mae syniad yn esblygu o awgrymiadau neu drafodaethau sy’n gysylltiedig â chymuned, ei diwylliant, ac ymdeimlad o le.

Dyma rai esiamplau o’r gwyliau/digwyddiadau allweddol sy’n cael eu cynnal ledled Cymru:

Cenedlaethol

  • Eisteddfod
  • Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru
  • Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi
  • Santes Dwynwen

    Rhanbarthol
  • Wythnos Fictoraidd yn Llandrindod
  • Gŵyl Lenyddol y Gelli
  • Gŵyl Fwyd Y Fenni
  • Gŵyl Jazz Aberhonddu
  • Sioeau’r Arglwydd Feiri
  • Dinas Llên Abertawe
  • Gŵyl Haf Caerdydd
  • Digwyddiad Adrodd Straeon Bro Morgannwg
  • Gŵyl Seiclo Cymru
  • Marathon Eryri
  • Gŵyl Gerdded Ynys Môn

    Lleol
  • Marchnadoedd
  • Carnifalau
  • Ailgreu Digwyddiadau Mewn Cestyll
  • Ffeiriau
  • Theatr Awyr Agored
  • Gwyliau Bwyd
  • Grwpiau Chwaraeon
  • Cystadleuthau Bandiau Lleol
  • Sioeau Crefft
  • Y Celfyddydau/Adloniant

    Sefydliadau Arbenigol
  • Cadw
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Gweithredwyr Atyniadau

    Digwyddiadau o Ddiddordeb Arbennig
  • Cerddoriaeth
  • Hynafolion
  • Gwyliau Blodau a Gwyliau Bwyd

    Arddangosfeydd/Masnach
  • Orielau
  • Amgueddfeydd
  • Busnes
  • Undebau Llafur
  • Gwestai ac Arlwyo
  • Cyflenwyr Bwydydd Cymreig

Ceir rhagor o fanylion yn www.tpnw.org (Cliciwch ‘Cynllun Cefnogi Digwyddiad Atodiad 2’ ar gyfer digwyddiadau ledled Cymru.

Pwyntiau Allweddol:

  • Dewiswch y math o ŵyl/digwyddiad yn ofalus
  • Sicrhewch fod y math o ddigwyddiad yn cyd-fynd â’i bwrpas, amser o’r flwyddyn, hyd, lleoliad a chynulleidfa darged
  • Dechreuwch gynllunio ar unwaith a chadarnhewch amcanion drwy ddefnyddio Llinell Amser.
  • Canllaw da yw: beth, pam, pryd, ble, gan bwy, sut?

Gweler Hefyd:

1.11 Tîm Trefnu
1.2 Ffurfio Pwyllgor
1.3 Cynhyrchu amserlen gynllunio
1.3 Rhestrau gwirio Canllaw Cynllunio Digwyddiad
1.5 Agor Cyfrif Banc

2.1 Cadarnhau Pwy Sy'n Gwneud Beth
Adran 7: Astudiaethau achos