Mae trefnu gŵyl neu ddigwyddiad, p’un ai am y tro cyntaf neu fel trefnwr profiadol, yn orchwyl beichus, cymhleth a blinedig.
Mae Arweinlyfr Gwyliau a Digwyddiadau Bwrdd Croeso Cymru wedi ei gynllunio i’ch tywys trwy pob cam o’r trefniadau. Crëwyd y cysyniad LLINELL AMSER i dywys y trefnwr trwy’r holl elfennau cynllunio a threfniant yn ei drefn gan ddefnyddio’r SIART LLINELL AMSER a Rhestrau Gwirio.
Mae’r SIART LLINELL AMSER a’r Rhestrau Gwirio wedi eu llunio i gynnwys bron pob posibiliad wrth drefnu digwyddiad.
Mae’r SIART LLINELL AMSER a’r Rhestrau Gwirio wedi eu cynllunio fel templed i chi islwytho a’i addasu yn ôl anghenion eich digwyddiad.
Yn yr Arweinlyfr mae yno hefyd astudiaethau achos diweddar, rhestr gyswllt ranbarthol gynhwysfawr a nifer o restrau gwirio a gynlluniwyd i wneud eich gwaith yn haws.
P’un a ydych yn newydd i ddigwyddiadau neu’n ‘hen ymgyrchwr’, bydd defnyddio’r SIART LLINELL AMSER a’r Rhestrau Gwirio yn eich galluogi i gadw llygad ar ble yr ydych yn y broses o drefnu digwyddiad llwyddiannus. Bydd yr Arweinlyfr cyfan yn arbed amser, yn gymorth cof ac yn rhoi gwybodaeth ymarferol i chi ar sut i redeg digwyddiad effeithiol ac wedi ei drefnu’n broffesiynol.
Associated Quality Services Limited