Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen

 

Mae gan drefnwyr gwyliau a digwyddiadau gyfrifoldeb cyffredinol dros y cyfan o faes arlwyo, gwerthu bwyd, alcohol a nwyddau ar y safle, dan do ac yn yr awyr agored.

Rhaid i bob eitem a gaiff ei chyflenwi, ei pharatoi, ei choginio, ei gweini a’i storio gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd a chodau ymarfer perthnasol.

Rhaid i nwyddau gydymffurfio â gofynion trwyddedu, yn cynnwys safonau masnach, nodau masnach a rheoliadau hawlfraint.

6.6.1 - Arlwyo a Marchnata - Paratoadau

6.6.2 - Arlwyo a Marchnata - Diwrnod/Diwrnodau’r Digwyddiad
6.6.3 - Arlwyo a Marchnata - Ar ddiwedd y digwyddiad
  • Rhaid i’r gweithredwr arlwyo, boed yn arlwywr mewnol neu’n gontractwr allanol, sicrhau bod pawb sy’n ymdrin â bwyd wedi derbyn hyfforddiant Hylendid Bwyd Sylfaenol.
  • Rhaid gosod offer Diogelwch Tân mewn lleoliadau strategol. Rhaid cadw pob mynedfa ac allanfa yn glir bob amser ar gyfer cyflenwadau rheolaidd, cerbydau brys a gwacâu safle ar frys.
  • Rhaid i gyfleusterau fod yn hygyrch at bob diben. Rhaid darparu toiledau ar wahân ar gyfer y rhai sy’n ymdrin â bwyd.
  • Trefnwch i sbwriel, gwastraff solid a hylifol gael ei waredu’n rheolaidd drwy’r Cyngor Lleol a chyflenwr arbenigol.
  • Rhaid cadw’r holl gyflenwadau bwyd mewn oergelloedd, rhewgelloedd ac offer neu gynwysyddion oeri digonol, gyda systemau cloi diogel mewn lle.
  • Darparwch gyfleusterau storio y gellir eu cloi ar gyfer yr holl nwyddau a diogeledd arian.
  • Cadwch stocrestrau er mwyn i chi allu gwirio stoc i’w ail-archebu, ailgyflenwi a gwirio codau dyddiad.


Pwyntiau Allweddol:

  • Cydymffurfiwch â deddfwriaeth Bwyd, Iechyd a Diogelwch er mwyn osgoi achosion o wenwyno
  • Sicrhewch fod y staff wedi’u hyfforddi mewn gweithdrefnau diogelwch bwyd
  • Sefydlwch reoliadau ar gyfer gwerthu bwyd, alcohol a nwyddau
  • Sefydlwch weithdrefnau diogelwch a gweithdrefnau brys
  • Mae’n hanfodol gwaredu sbwriel, bwyd a gwastraff glanweithiol yn rheolaidd

Gweler Hefyd:

Adran 4 Cynllun Digwyddiadau Wrth Gefn
6.2 Gwasanaethau a Chyfleusterau
6.4 Staff a Hyfforddiant
6.5 Ymdrin ag Ymwelwyr
6.7 Gweinyddu
6.8 Cynlluniau wrth gefn
Adran 7 Rhestrau Cysylltiadau Rhanbarthol
Adran 7 Astudiaethau Achos