Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Mae cyfathrebu da yn hanfodol er mwyn i’r digwyddiad redeg yn ddiogel, yn llyfn ac yn llwyddiannus. Sicrhewch fod rhwydweithiau a chysylltiadau rhwng staff ar waith.

Rhowch gymorth i ymwelwyr drwy fannau rheoli lle ceir gwasanaethau a weithredir gan staff.

6.5.1 - Ymdrin ag Ymwelwyr - Paratoadau

6.5.2 - Ymdrin ag Ymwelwyr - Diwrnod/Diwrnodau’r Digwyddiad
6.5.3 - Ymdrin ag Ymwelwyr - Ar ddiwedd y digwyddiad

 

Sicrhewch fod ymwelwyr o bob oedran yn gallu cael mynediad i wybodaeth, a chyfleusterau lles ac iechyd. Ystyriwch y canlynol:

  • Canolfan Wybodaeth
  • Plant coll (gyda staff hyfforddedig)
  • Eiddo coll (polisi cofnodi a storio)
  • Ystafelloedd cotiau a storfeydd bagiau
  • Ardaloedd arlwyo, bwyta a lluniaeth
  • Cymorth Cyntaf a chyfleusterau meddygol
  • Cyfleusterau brys
  • Lles Staff – ar gyfer holl staff y safle
  • Argaeledd yr Heddlu, y Frigâd Dân, Swyddogion Diogeledd
  • Cyfleusterau anghenion arbennig ar gyfer pobl o bob oedran

Gallech ystyried y dulliau canlynol o gyfathrebu:

  • systemau PA
  • gwasanaethau lleisio ar gyfer argyfyngau
  • hysbysfyrddau a negesfyrddau
  • ffonau cyhoeddus

Dylid cefnogi’r rhain gyda staff a hyfforddwyd i groesawu, cynorthwyo a chyfeirio ymwelwyr i’r safle.

Sicrhewch fod eich ymwelwyr wedi ymlacio ac yn teimlo’n gyfforddus, c yn hyderus bod yr holl weithdrefnau angenrheidiol ar waith i ymdrin â rheoli torfeydd, cwynion, argyfyngau, damweiniau, offer yn methu ac agweddau diogeledd.

Pwyntiau Allweddol

  • Sefydlwch amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu
  • Trefnwch ddiogeled, systemau PA, teledu cylch cyfyng a gweithdrefnau wrth gefn
  • Sicrhewch fod cyfleusterau anghenion arbennig ar gael
  • Sefydlu cyfleusterau ar gyfer plant, wedi eu gweithredu gan staff arbenigol

Gweler Hefyd:

6.2 Gwasanaethau/Cyfleusterau
6.4 Staff/Hyfforddi
6.7 Gweinyddu
6.8 Trefniadau wrth gefn