Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Rhaid i drefnwyr gwyliau a digwyddiadau sicrhau bod pob person sy’n cymryd rhan wedi eu briffio ac/neu wedi derbyn hyfforddiant i’w helpu i gydymffurfio â safonau Iechyd a Diogelwch. Rhaid i’r holl staff ddeall y cynlluniau gweithredol a’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â digwyddiadau mawr.

Yr elfennau allweddol ar gyfer digwyddiad llwyddiannus yw:

  • cyfathrebu
  • cydweithio
  • cydweithrediad

Dylai hyfforddiant a sesiynau briffio fod yn orfodol, fel bod gan yr holl staff, stiwardiaid, gwirfoddolwyr, artistiaid a phawb sy’n ymwneud â rhoi’r digwyddiad ar waith wybodaeth gyffredinol dda o’r digwyddiad yn ei gyfanrwydd.

6.4.1 - Staff a Hyfforddiant - Paratoadau

6.4.2 - Staff a Hyfforddiant - Diwrnod/Diwrnodau’r Digwyddiad
6.4.3 - Staff a Hyfforddiant - Ar ddiwedd y digwyddiad

Mae’r gwaith o recriwtio a dethol gwirfoddolwyr a staff eraill yn cymryd amser. Dechreuwch y gwaith yn gynnar yn y broses gynllunio.

Gwahoddwch geisiadau:

  • drwy hysbysebu
  • drwy gysylltu â’r cymdeithasau priodol
  • drwy drefnwyr digwyddiadau eraill.

Gweler LLINELL AMSER 6.4 Ffurflen Gais ar gyfer Gwirfoddolwyr.

Wedi i chi ddewis cyd-weithwyr, bydd angen i chi gyflawni cwrs cyflwyno ar y safle, a sesiynau hyfforddi a briffio. Gallech ddewis cynnal nifer o sesiynau byr yn canolbwyntio ar bynciau gwahanol:

  • y digwyddiad a’r gweithdrefnau
  • ymdrin â digwyddiadau ac achosion brys
  • rheoli’r cyhoedd
  • briffiadau terfynol
  • Adborth ar ôl y digwyddiad.

Sicrhewch fod yr holl staff yn gwybod:

  • Pa gyfleusterau/gwasanaethau sydd ar gael
  • Ymhle mae’r rhain wedi eu lleoli fel eu bod yn gallu cyfeirio pobl
  • Sut i reoli problemau, yn cynnwys:
    • helyntion a chanlyniadau nas rhagwelir,
    • achosion brys fel tân neu fygythiad bom
    • damweiniau
    • plant coll
    • eiddo coll
    • cyfeiriadau/gwybodaeth ar y safle/tu hwnt i’r safle
    • gwybodaeth ynglŷn ag amwynderau lleol i ymwelwyr

Sicrhewch fod gan bawb wybodaeth ddigon manwl i wneud penderfyniadau cyflym ac i weithredu’n hyderus.

Darparwch enwau cyswllt /rhifau ffôn, yn enwedig i’r trefnydd/rheolwr llinell dros gyfnod o 24 awr.

Dylai’r holl staff gael mynediad i ffôn radio (walkie/talkie) neu ffôn symudol.

Rhaid cofnodi pob cam a gymerir – bydd hyn yn eich helpu i werthuso’r digwyddiad ar y diwedd.

Er mwyn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rhaid cadw cofnod o unrhyw ddamweiniau.

Ceir gofynion penodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phlant. Dylech wirio’r rheoliadau diweddaraf ar gyfer datgeliadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn www.disclosure.gov.uk neu drwy ffonio’r llinell wybodaeth ar 0870 909 0811.

Gallwch ddod o hyd i gyrsiau hyfforddi ar gyfer digwyddiadau ledled Cymru yn:

Mae Pecynnau Cymorth amrywiol hefyd ar gael o Fwrdd Croeso Cymru drwy: www.wtbonline.gov.uk

Mae gwefan Pecyn Cymorth ‘Success Through Your People’ yn: www.whodoiask.com/employing-people/toolkit/pages/chapter6.htm cynnig dogfennau/rhestrau gwirio amrywiol y gellir eu llwytho, er enghraifft ar gyfer recriwtio a datblygu staff, osgoi problemau ac agweddau ar hyfforddiant.

Pwyntiau Allweddol

  • Rhaid i’r holl staff dderbyn hyfforddiant gorfodol i sicrhau eu bod yn deall gweithdrefnau gweithredu
  • Mae’r staff yn gyfrifol am ddarparu profiad diogel, pleserus, llawn hwyl
  • Darparwch restr dasgau a chyfrifoldebau ysgrifenedig a map manwl o’r safle i aelodau o staff
  • Sicrhewch fod gan eich staff y gallu i reoli pobl mewn modd proffesiynol ymhob sefyllfa
  • Croesawch bob ymwelydd drwy fod yn gyfeillgar, yn amyneddgar ac yn barod eich cymorth
  • Anogwch staff i fod yn effro i sefyllfaoedd newidiol

Gweler Hefyd:

3.7 Datblygu Cynllun Gweithredu
Adran 4 Cynllun Digwyddiadau Wrth Gefn
Adran 6 Rhoi’r Digwyddiad ar Waith - Cynllun Gweithredol
Adran 7 Rhestrau Cysylltiadau Rhanbarthol
Adran Astudiaethau Achos