Bydd angen i chi sicrhau bod nifer o wasanaethau a chyfleusterau ar gael ar y safle er mwyn gweithredu’r digwyddiad yn effeithlon ac yn llwyddiannus.
6.2.1 - Gwasanaethau a Chyfleusterau - Paratoadau |
|
|
| 6.2.2 - Gwasanaethau a Chyfleusterau - Diwrnod/Diwrnodau’r Digwyddiad |
|
|
6.2.3 - Gwasanaethau a Chyfleusterau - Ar ddiwedd y digwyddiad
|
|
|
Er mwyn cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a mynd ar drywydd ceisiadau am ganiatâd, dylai mapiau a chynlluniau ddangos lleoliad gwasanaethau ar y safle ac yn agos i’r safle.
Os nad yw’r gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich digwyddiad ar y safle, gall fod angen i chi eu prynu, llogi neu eu benthyg.
Cadwch restrau gwirio cyfredol a chywir o offer a chyflenwadau. Sicrhewch fod gennych offer a chyflenwadau wrth gefn rhag ofn i unrhyw offer dorri.
Dewch o hyd i gyflenwyr gwasanaethau a chyfleusterau drwy’r Yellow Pages, cyfeirlyfrau ffôn lleol, a gorau oll, drwy siarad â threfnwyr digwyddiadau eraill.
Defnyddiwch gyflenwyr cymeradwy megis y cwmni trydan priodol, Dŵr Cymru, gosodwyr, trydanwyr a phlymwyr cofrestredig. Osgowch fandaliaeth drwy sicrhau bod systemau diogeledd digonol ar eich safle.
Gallech wahodd y Cyngor Lleol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ymweld â’r safle a’i wirio, yn enwedig os ydych yn newydd i’r rôl. Gall y Frigâd Dân a’r Heddlu hefyd roi cyngor ar ddiwallu gofynion.
Pwyntiau Allweddol
- Cynlluniwch yn ofalus ar gyfer cyflenwi, gosod a gwaredu’r holl wasanaethau a chyfleusterau
- Briffiwch yr holl staff ynglŷn â lleoliad y gwasanaethau a’r cyfleusterau
- Rhowch weithdrefnau ar waith er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch
- Sicrhewch fod arwyddion yn ddwyieithog, wedi eu goleuo’n dda, ac wedi eu lleoli’n glir
- Gwiriwch gyfleusterau yn rheolaidd ac ail-gyflenwch eitemau drwy gydol y digwyddiad
Gweler Hefyd:
3.7 Datblygu Cynllun Gweithredol
Adran 4 Cynllun Wrth Gefn
Adran 6 Rhoi’r Digwyddiad ar Waith – Cynllun Gweithredol
Adran 7 Rhestrau Cysylltiadau Rhanbarthol