Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf yn 1929 yng Nghorwen. Tarddodd o Fudiad Ieuenctid a ffurfiwyd yn 1922. Fel arfer cynhelir y digwyddiad ieuenctid cenedlaethol hwn sy’n parhau am 6 diwrnod, ym mis Mehefin, mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru. O 2005 ymlaen, caiff ei gynnal yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, yng Nghaerdydd, bob pedair blynedd.

Amcan Eisteddfod yr Urdd yw darparu rhwydwaith cymdeithasol i bobl ifanc o fewn fframwaith addysgol. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt i fynegi eu hunain yn eu maes diddordeb penodol, er enghraifft drama, barddoniaeth, cerddoriaeth a chwaraeon, gan gystadlu mewn grwpiau neu fel unigolion.

Cynhelir tua 450 o gystadlaethau lleol mewn 18 Rhanbarth ledled Cymru. Rhaid llwyddo mewn dwy rownd leol ragbrofol cyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Mae dau dîm yn gweithio’n barhaus i gydlynu a threfnu’r digwyddiad, gan orgyffwrdd dros gylch gynllunio tair blynedd.

Mae 8 aelod o’r staff craidd ledled Cymru yn cynnwys rheolwr safle i oruchwylio’r gwaith o drefnu a chynllunio’r safle, a’i gwasanaethau a chyfleusterau. Mae cymdeithasau lleol a phobl eraill sydd â diddordeb yn darparu cymorth gwirfoddol.

Mae maint y digwyddiad yn pennu’r dewis o leoliad. Defnyddir safleoedd ‘maes glas’ fel arfer – mae hyn yn darparu lle ar gyfer stondinau, pebyll a phebyll mawr (e.e. ar gyfer lletygarwch a’r cyfryngau) a maes carafannau (gydag uchafswm o 250 ar unrhyw un adeg).

Ar wahân i’r prif safle, gall cystadlaethau gael eu cynnal yn yr ardal leol mewn ysgolion, neuaddau a lleoliadau addas eraill. Mae cefnogaeth y gymuned leol a thrigolion yn hanfodol i lwyddiant y digwyddiad.

Mae digwyddiad o’r maint hwn yn costio tua £1.3 miliwn. Ceisir nawdd gan amrywiaeth o ffynonellau. Darperir nawdd gan sefydliadau masnachol a phreifat, a dyrennir grantiau amrywiol gan gyrff fel Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae derbyniadau mynediad, hawliau teledu a darlledu, deiliaid stondinau, stondinau masnach a nwyddau’r Urdd hefyd yn cynhyrchu incwm. Darperir cymorth ar ffurf nwyddau a gwasanaethau gan nifer o wirfoddolwyr.

Mae Awdurdodau Lleol sy’n gwahodd Eisteddfod yr Urdd i’w hardal yn cyfrannu tua 15% tuag at gost yr ŵyl – buddsoddiad sylweddol i’r economi lleol.

Ar wahân i 15,000 o gystadleuwyr (3 o bob cystadleuaeth a gynhaliwyd yn flaenorol) mae tua 100,000 o ymwelwyr yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd.

Yn gyffredinol, cynhelir cystadlaethau yn ystod y dydd rhwng 7.30am a 6pm. Cynhelir perfformiadau nad ydynt yn gystadlaethau, fel cyngherddau, gyda’r hwyr, gan roi’r cyfle i blant lleol berfformio yn gyhoeddus am hwyl.

Cynhaliwyd Dosbarthiadau Meistr Cerddoriaeth yn ystod Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf yn 2004. Profodd y rhain i fod yn boblogaidd iawn ac yn ddull effeithiol o hyrwyddo diwylliant Cymraeg.

Fel arfer caiff tua 1,000 o wirfoddolwyr eu recriwtio drwy bwyllgorau lleol er mwyn gweithredu fel stiwardiaid/ marsialiaid. Mae angen Clerc ar bob cystadleuaeth, ac felly daw 450 o wirfoddolwyr eraill o ysgolion, grwpiau lleol a chymdeithasu.

Mae’r Frigâd Dân ac Ambiwlans Sant Ioan yn cynnal cyrsiau cyflwyno ar gyfer eu holl staff.

Mae’r trefnwyr yn cysylltu’n agos â’r heddlu ynglŷn ag arwyddion, rheoli trafnidiaeth a’r priffyrdd. Mae cwmni diogeledd yn goruchwylio holl ddiogeled y safle ar gyfer y digwyddiad.

Mae gan holl ddigwyddiadau’r Urdd, yn cynnwys yr Eisteddfod, sicrwydd Yswiriant Atebolrwydd Digwyddiad. Rhaid i bob deiliaid masnach, fel isgontractwyr hunan gyflogedig, gael eu hyswiriant eu hunain.

Dolenni Defnyddiol:

www.urdd.org

Pwyntiau Allweddol:

  • Mae cydweithrediad a chefnogaeth gan y gymuned leol yn gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant
  • Cysylltwch â’r cyfryngau yn ystod y camau cyntaf er mwyn sicrhau gwybodaeth hyrwyddo a “chynigion dau am un”
  • Pwysig ffurfio gweithgorau rheolaidd gyda’r Awdurdod Lleol, y Frigâd Dân, Ambiwlans Sant Ioan a’r gwasanaethau brys eraill
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gynghori drwy gydol y broses gynllunio a threfnu gyda gwiriadau bob dydd yn cynnwys maes y ffair
  • Paratowch a chynlluniwch ymhell ymlaen llaw, a hysbyswch y staff o’u rolau a’u cyfrifoldebau
  • Oherwydd cost uchel yswiriant ar gyfer masnachwyr unigol, mae trefnwyr yr ŵyl yn ystyried trefnu yswiriant bloc, gyda masnachwyr yn cyfrannu canran o’r gost
  • Parcio, Toiledau a’r Tywydd yw’r tair elfen bwysicaf er mwyn sicrhau llwyddiant digwyddiad