Mae Gŵyl Fwyd Arberth yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir dros 2 ddiwrnod ym mis Medi sydd bellach yn ei chweched blwyddyn. Trefnir yr ŵyl gan y gymuned leol, a’i phrif atyniad yw mwynhau’r bwyd lleol gorau gydag adloniant a gweithgareddau ychwanegol.
Mae’r Ffair Fwyd yn cynnwys:
- Arddangosiadau coginio
- Stondinau gyda bwydydd, diodydd a chrefftau
- Gweithdai plant
- Arddangosfeydd coginio
- Blasu gwin
- Diddanwyr stryd
- Cwis bwyd
- Ciniawau
- Adloniant gyda’r nos (cyngherddau, ffilmiau)
Cynllunnir yr ŵyl dros gyfnod o 12 mis, gyda’r gwaith yn dechrau unwaith y daw’r ŵyl flaenorol i ben.
Mae pwyllgor cynllunio gyda 15/16 aelod yn cynnwys rheolwr Neuadd y Frenhines a chynrychiolwyr y Cynghorau Lleol.
Dyrennir cyfrifoldebau dros feysydd diddordeb penodol (e.e. stondinau bwyd, crefftau) i is-grwpiau o tua 4 o bobl. Mae hyn yn sicrhau bod cydbwysedd da o bobl gyda diddordebau amrywiol yn gallu cyfrannu eu doniau, o gynllunio ariannol i wneud paneidiau te.
Yn ystod y camau cynnar, cynhelir cyfarfodydd cynllunio yn fisol. Mae hyn yn cynyddu i bob pythefnos wrth i’r digwyddiad agos á u, gyda briffiadau terfynol y diwrnod cyn.
Mae gan un person y cyfrifoldeb dros weithdai’r plant, ac mae gan yr holl weithredwyr brofiad o weithio gyda phlant.
Mae’r pwyllgor yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor y Dref, y Cyngor Sir, yr Heddlu (ar ‘Wiriadau’ a thrafnidiaeth) ac Awdurdod Datblygu Cymru. Mae Cyngor Celfyddydau’r Gymuned yn dechrau ei dymor ffilmiau fel rhan o’r Ŵyl, ac yn rhannu risg y cyngerdd mawr terfynol gyda phwyllgor yr ŵyl.
Daw nawdd a chymorth mewn da o fyrddau amrywiol, yn cynnwys cyllido drwy gynllun bwyd-amaeth Awdurdod Datblygu Cymru ac archfarchnad leol.
Yn y dyddiau cynnar, roedd yn arbennig o bwysig ymchwilio i ddyddiadau ac osgoi gwrthdaro â digwyddiadau a gweithgareddau eraill dros ardal eang. Gan fod y digwyddiad bellach wedi ennill ei blwyf gyda lleoliad a dyddiadau sefydlog, mae bellach yn bosibl trefnu’r lleoliad flwyddyn ymlaen llaw.
Anogir o leiaf un datblygiad newydd bob blwyddyn, er mwyn cadw diddordeb y cyhoedd. For example, in 2004 a marquee was added to the site, a food club was established
To sustain public interest at least one new development is encouraged each year e.g. marquee added to venue site in 2004; Food Club set up, currently 50 members from locality and across Wales; Window Display Competition for Narberth businesses, externally judged. Er enghraifft, cynhwyswyd pabell fawr am y tro cyntaf yn 2004 a sefydlwyd clwb bwyd. Ar hyn o bryd mae gan y clwb hwn hanner cant o aelodau ledled Cymru. Mae datblygiadau eraill wedi cynnwys Cystadleuaeth Arddangosfa Ffenestr ar gyfer busnesau Arberth, gan helpu iddynt deimlo fel rhan o’r ŵyl.
Anogir sefydliadau/cymdeithasau eraill i gymryd rhan. Er enghraifft, mae Coleg Sir Benfro yn helpu gydag agweddau ar y bwyd. Daw’r gwirfoddolwyr sy’n helpu yn y digwyddiad o grwpiau ieuenctid yn aml, ac mae plant ysgol gynradd hŷn yn gwneud basgedi bara, yn paratoi brechdanau ac yn coginio tatws pob mewn gweithdai.
Nid tatws pob, bara lawr a chawl yn unig sydd ar y fwydlen; mae cyfranogiad gan ystod o fusnesau a sefydliadau lleol yn darparu’r cyfle i ymwelwyr ddysgu am fwydydd a diwylliannau o bob rhan o’r byd. Mae Sushi, Chow Mein a Chaws Pob ar gael.
Youth groups contribute to event volunteers. Codir tal mynediad ar gyfer oedolion yn unig. Mae tua 3,000 – 4,000 o bobl o bob oedran yn mynychu’r digwyddiad yn gyson.
Cysylltiadau Defnyddiol:
E-bost: eastwestcuisine@aol.com
Ffôn: Jackie Palit 01834 860268
Pwyntiau Allweddol:
- Sicrhewch fod gan y pwyllgor weledigaeth gyffredinol glir o’r digwyddiad
- Recriwtiwch aelodau o’r pwyllgor sydd â chydbwysedd o ddiddordebau
- Cadwch gofnodion a chynlluniau manwl yn cynnwys: cynllun y stondinau, dyraniad lle ar gyfer pob deiliad stondin, dyraniad tasgau
- Sicrhewch gyfranogaeth gan y gymuned leol: busnesau, colegau, ysgolion a grwpiau celfyddydol
- Rhannwch brofiadau a chyfnewidiwch syniadau gyda threfnwyr gwyliau eraill, e.e. ymunodd cogydd o Lwydlo â chogydd lleol i goginio pryd o fwyd ffurfiol
- Trefnwch adloniant lleol e.e. myfyriwr cerddoriaeth lleol fel telynor, canwr, artist/bardd lleol.
- Trefnwch leoliad lleol sydd ag offer tân/cymorth cyntaf eisoes ar gael
- Datblygwch ddigwyddiadau ‘parhaus’ yn raddol i ‘ychwanegu gwerth’ ac annog ymwelwyr i ddychwelyd. Defnyddiwch ganllawiau cynnydd mewn gweithgareddau o tua 10% er mwyn sicrhau cynaliadwyedd
- Peidiwch â defnyddio eich syniadau i gyd ar unwaith – cadwch rai ar gyfer y dyfodol
- Peidiwch ag anghofio gwiriadau heddlu, yn enwedig ar gyfer gweithdai plant
- Dylech farchnata’r ŵyl yn raddol dros y flwyddyn, gan gynyddu’r cyhoeddusrwydd ryw fis cyn y digwyddiad
- Ystyriwch gynllunio fel ymdrech a chyfrifoldeb tîm. Peidiwch â rhoi’r bai ar un person os aiff pethau o chwith – ceisiwch ddatrys y broblem gyda’ch gilydd
- Mae agwedd dda gyffredinol ac ymysg eich gilydd yn bwysig iawn – rhowch glod lle mae’n ddyledus
- Sesiwn Adborth ar ôl yr ŵyl i wella pethau’r tro nesaf – byddwch yn feirniadol. Gweithredwch, ac amlygwch bethau nad ydynt yn gweithio’n dda