Roedd Gŵyl y Glannau 2003 yn ddigwyddiad deuddydd a drefnwyd gan Gyngor Bro Morgannwg yn y Barri. 2003 oedd yr ail flwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal.
Y prif atyniad oedd ymweliad y llong STA Stavros S Niarchos, a agorodd i’r cyhoedd ar gyfer teithiau tywys.
Roedd y digwyddiad amlochrog hwn yn cynnwys detholiad o weithgareddau er mwyn annog ymwelwyr i ddychwelyd i Gymru ac i’r ardal, yn cynnwys:
- Teithiau Rheilffordd Stem
- Marchnad Ffermwyr
- Ffair Grefftau
- Hen Fysiau
Cerddoriaeth fyw ac adloniant (yn cynnwys Funhouse ac Owen Money o Radio Wales)
Cyflwynwyd gŵyl 2003 mewn dulliau amrywiol er mwyn apelio at gynulleidfaoedd gwahanol. Hen Drafnidiaeth a Bwyd oedd y ddwy brif thema, gyda cherddoriaeth ac adloniant ychwanegol.
Gweithiodd y trefnwyr yn agos gydag Awdurdod y Porthladdoedd, Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) ac atyniadau arbenigol eraill er mwyn sicrhau llwyddiant y digwyddiad.
Roedd gan y digwyddiad gyfnod rhagarweiniol byr o 6 wythnos, a chyflawnwyd asesiad risg cyn dechrau’r broses gynllunio. Roedd diogelwch y cyhoedd yn y lleoliad glan y dŵr hwn yn hollbwysig.
Cynlluniwyd y digwyddiad gan weithgor bach a gadeiriwyd yn dda gyda chyfarfodydd yn cadw’n dynn at eu hamserlen. Roedd gan drefnydd y digwyddiad gyfrifoldeb cyffredinol a rheolaeth dros bob agwedd, yn cynnwys rhestrau cyswllt ar gyfer yr holl bersonél a oedd yn cymryd rhan.
Cynhyrchodd y tîm brif ffeil er mwyn cofnodi’r holl wybodaeth drefniadol a gweithredol rhag ofn y byddai unrhyw un y sâl ar ddiwrnod y digwyddiad. Caiff y drefn hon ei defnyddio fel model ar gyfer trefnu digwyddiadau a gwyliau tebyg yn y dyfodol.
Darparwyd nawdd gan Gyngor Bro Morgannwg a Chynlluniau Cyllido Bwyd-amaeth Awdurdod Datblygu Cymru (WDA).
Trefnwyd Stiwardiaid drwy’r ganolfan galw i mewn lleol. Chwaraewyd rôl allweddol ganddynt yn y gwaith o reoli’r cyhoedd ar y diwrnod, a chawsant hyfforddiant ar ryngweithio cymdeithasol, cymhelliant ac ymrwymiad.
Cynlluniwyd yr ymgyrch farchnata a hyrwyddo yn ofalus. Rhyddhawyd gwybodaeth i’r cyhoedd fesul tipyn, gan bwysleisio’r ffaith bod y mwyafrif o ddigwyddiadau am ddim. Wrth i’r digwyddiad agosáu, cynyddwyd nifer y posteri, taflenni a sylw yn y cyfryngau.
Roedd taflenni a gynlluniwyd yn ofalus yn cynnwys:
- Lleoliad y digwyddiad
- Esboniad o’r digwyddiad
- Dyddiad
- Logos y noddwyr
- Pris
- Yr amserlen
- Manylion cyswllt ar gyfer gwybodaeth yn cynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau’r wefan
Mynychodd 7,000 o bobl yn 2002, ac 14,000 yn 2003.
Dolenni Defnyddiol:
www.waterfrontbarry.com
Pwyntiau Allweddol:
- Cynllunio manwl ymlaen llaw er mwyn cwrdd ag amserlenni tynn
- Sicrhewch fod trefniadau nawdd/cyllido ar waith yn gynnar
- Cadwch y gweithgor yn fach, dewiswch y tîm ac arbenigwyr yn ofalus
- Fel tirfeddiannwr, cofiwch eich dyletswydd gofal i’r gymuned
- Mynnwch gyngor cyfreithiol (e.e. yswiriant, atebolrwydd cyhoeddus, cae ffair)
- Cydymffurfiad â deddfwriaeth (cyngor gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd)
- Ymgynghorwch â’r heddlu ynglŷn ag alcohol, cau ffyrdd, plant/ gwirio oedolion diamddiffyn
- Cysylltiadau manwl â’r cyfryngau
- Agweddau iechyd a diogelwch (e.e. offer tân yn y pebyll mawr, bwyd, arall)
- Cysylltwch â phawb sy’n ymwneud â’r digwyddiad (e.e. Rheilffordd Stem, Ffermwyr, Marchnad)
- Cofiwch roi cronfeydd/cynlluniau wrth gefn ar waith - (tir wedi ei orlifo gan arwain at gostau ychwanegol nas rhagwelwyd i bwmpio’r dŵr i ffwrdd)
- Cadw cofnodion manwl a rhestrau cyswllt ar gyfer argyfyngau
- Bydd trefn wirio yn sicrhau llwyddiant (e.e. amserlen dasgau; amserlen gyfarfodydd, rhestrau cyswllt, briffiadau bob dydd)
- Adborth dilynol ar ôl y digwyddiad gyda’r gweithgor ac eraill
- Diolch i bawb am gymorth a help