Daeth y Ras Dyn yn erbyn Ceffyl i fodolaeth yng Nghymru yn sgil sgwrs dros beint mewn bar gwesty lleol yn Llanwrtyd, y dref leiaf ym Mhrydain.
Cynhaliwyd y ras gyntaf yn y dref ym 1980. Arweiniodd ei llwyddiant lleol at gynnal y digwyddiad un dydd hwn bob blwyddyn ym mis Mai/Mehefin. Yn y flwyddyn 2004 dathlwyd pen-blwydd y ras yn 25ain, ac mae bellach yn cynnwys cystadleuwyr rhyngwladol o lefydd mor bell â Kenya a’r Unol Daleithiau.
Mae chwedl Guto Nyth-Bran yn adrodd hanes ei ras yn erbyn ceffyl yn Sir Aberteifi ar ddechrau’r 18 fed ganrif. Rhagflaenydd y digwyddiad presennol!
Mae’r digwyddiad yn anelu at ddenu twristiaid i Lanwrtyd a bellach yn cyfrannu tua £1-£1.5 miliwn i dwristiaeth leol.
Dechreuodd y digwyddiad yn1980 gyda 40 rhedwr a 6 cheffyl a gwblhaodd ras 22 milltir. Cefnogwyd y digwyddiad bach lleol gan ychydig gannoedd o wylwyr.
Erbyn 2004 roedd y marathon wedi tyfu i gynnwys tua 300 rhedwr, 46 ceffyl, 80 tîm o 3 pherson a miloedd o wylwyr!
Trefnir y digwyddiad gan bwyllgor bach o 5 gwirfoddolwr, yn cynnwys Cadeirydd, Ysgrifennydd y Rhedwyr, Ysgrifennydd y Ceffylau/marchogwyr, Trysorydd ac Ysgrifennydd Cyffredinol. Bellach gweithredir y pwyllgor yn ffurfiol fel cwmni cyfyngedig trwy warant.
Y rhedwyr sy’n dechrau’n gyntaf, gyda’r ceffylau’n dilyn 15 munud yn ddiweddarach. Yn gyffredinol, mae’r Ceffylau a’r marchogion yn aelodau o’r Gymdeithas Ceffylau a Merlod Dygn. Ceir gweithdrefnau ar gyfer archwilio’r ceffylau hanner ffordd drwy’r ras ac mae rheoliadau dygnwch ar gyfer digwyddiadau pellter hir Cymdeithas Ceffylau Prydain yn gymwys.
Mae Cwmni Bulmers Cider wedi noddi’r ras dyn yn erbyn ceffyl ers ei hail flwyddyn. Yn ogystal, mae William Hill wedi bod yn darparu nawdd am y 15 mlynedd ddiwethaf. Ceir cefnogaeth mewn da yn ogystal.
Rhoddir gwobrau niferus, yn cynnwys gwobr ariannol o £600 ar gyfer y rhedwr, y marchogwr a’r tîm cyfnewid cyntaf. Mae pawb sy’n gorffen y ras yn derbyn cofarwydd a bet gwerth £5 am ddim.
Mae’r gwaith o gynllunio a threfnu’r digwyddiad yn cynnwys:
- sicrhau caniatâd gan berchnogion tir ar gyfer defnyddio llwybrau ceffylau
- llogi rhwystrau/strwythurau i reoli cystadleuwyr /gwylwyr
- trefnu yswiriant
- trefnu sgorio/canlyniadau cyfrifiadurol
- rheoli ceisiadau cystadleuwyr/derbyn gwybodaeth cystadleuwyr wythnos cyn y digwyddiad
- gwneud taliadau i un ffynhonnell “Green Events”
Mae Tîm Achub ar y Mynydd y Bannau bob amser wrth law, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch. Hysbysir yr Heddlu a’r Cyngor Lleol ynglŷn â’r digwyddiad.
Caiff stiwardiaid eu recriwtio drwy hysbysebion yng nghanllaw ‘Digwyddiadau’ y dref (tua 35 eleni). Yn gyfnewid am eu cymorth, maent yn derbyn nwyddau a ddarparwyd gan William Hill, sy’n cynnwys crys-T a bet gwerth £5 am ddim.
Caiff stiwardiaid eu briffio am 6am ar ddiwrnod y digwyddiad, ac maent yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau diogelwch cystadleuwyr a gwylwyr.
Caiff y cystadleuwyr eu nodi yn y mannau rheoli a rhoddir disgiau diogelwch iddynt i’w logio pan fyddant yn dychwelyd dychweliad.
Bydd deddfwriaeth y llywodraeth ac yswiriant atebolrwydd digwyddiad yn cael effaith ar y digwyddiad yn y dyfodol. Mae’n anos sicrhau yswiriant ac mae gofynion deddfwriaethol yn dod yn fwy llym.
Dolenni Defnyddiol:
www.green-events.co.uk
www.williamhill.co.uk
Pwyntiau Allweddol:
- Y Trefnwr/Trefnwyr sydd â chyfrifoldeb dros y digwyddiad
- Nid yw ffurfio cwmni cyfyngedig bob amser yn addas
- Gwiriwch argaeledd yswiriant cyn dechrau trefnu digwyddiad, yn enwedig pan fo’r digwyddiad yn cynnwys gweithgareddau ac alcohol
- Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod yr Yswiriant Atebolrwydd Digwyddiad yn cydymffurfio â datblygiadau deddfwriaethol
- Rhowch wybod i’r dref drwy hysbysebu yn y canllaw digwyddiadau lleol
- Cadwch y pwyllgor yn fach, a phenodwch un person i drefnu’r cyhoeddusrwydd
- Pwysigrwydd Rhestrau Gwirio ar gyfer: Amserlen y Digwyddiad, Cyfarwyddiadau/Mapiau
- Rhestrwch gyfrifoldebau ac enwau/cyfeiriadau cyswllt a chadwch gofnodion
- Cynllunio Ffurflenni cais: cynhwyswch Rheolau/Amodau ac Ymwadiadau
- Gweithgareddau ychwanegol – parti noddedig ar gyfer cystadleuwyr y noson cyn y digwyddiad