Dechreuodd Treialon Cŵn Defaid yn y Bala, ym mis Hydref 1873. Nod y treialon yw: “hybu a meithrin trwy Loegr, Iwerddon, Yr Alban, Cymru, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a pha bynnag wledydd eraill y gwelir yn ddymunol ac yn angenrheidiol i’r gwaith o fagu, hyfforddi a gwella cŵn defaid sy’n gweithio. Hyn er mwyn sicrhau gwell rheolaeth stoc drwy wella cŵn bugeiliaid”.
Cynhaliwyd y Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol bron a bod bob blwyddyn ers sefydlu’r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol (ISDS) yn1906 . Mae treialon yn parhau am dridiau ac yn cael eu cynnal yn y Gogledd a’r De am yn ail.
Uchafbwynt y treialon rhagbrofol cenedlaethol yw’r treialon Rhyngwladol blynyddol. Cynhelir y rhain yng Nghymru bob 4 blynedd. Cynhaliwyd y Treialon Rhyngwladol yn Llandeilo ym mis Medi 2004, ar y cyd â ffair helwriaeth. Ymhen 4 blynedd caiff treialon 2008 eu cynnal yn y Gogledd.
Mae’r Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol yn defnyddio ymagwedd o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Codir arian drwy:
- gyngherddau
- rafflau
- elw o dreialon cŵn defaid lleol arferol
- gwerthu hysbysebion mewn rhaglenni
- codi nawdd.
Mae’r pwyllgor trefnu yn gweithio dan nawdd y Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol. Mae’r pwyllgor yn cynnwys 12-14 aelod. Y Llywydd presennol a’r Ysgrifennydd a’r Trysorydd etholedig sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros gynllunio’r digwyddiad ac am gadw cofnodion manwl.
Ymgymerir â’r gwaith trefnu cyffredinol gan wirfoddolwyr sy’n gefnogwyr cŵn defaid yn bennaf. Cânt eu gwahodd i gyfarfodydd er mwyn trafod rolau a chyfrifoldebau stiwardio ac i fynychu sesiynau briffio Iechyd a Diogelwch gofynnol.
Mae natur arbenigol iawn y digwyddiad hwn yn pennu’r dewis o leoliad. Golyga hyn nad oes llawer o gyfleusterau ar gael ar y safle fel arfer.
Mae ystyriaethau wrth ddewis y safle yn cynnwys:
- lle digonol i gynnal y treialon
- argaeledd mannau parcio
- ardal ar wahân ar gyfer cystadleuwyr
- ardal gyhoeddus yn cynnwys stondinau, pebyll mawr, toiledau ac eisteddle.
Caiff y rhan fwyaf o’r cyfleusterau eu llogi er mwyn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol.
Ystyrir bod y Treialon Cenedlaethol yn weithgaredd risg-isel gydag yswiriant argyfwng is na’r digwyddiad rhyngwladol.
Mae gweithgareddau ymylol yn brin yn y digwyddiad cenedlaethol. Dim ond nifer fach o weithredwyr busnes lleol sy’n cymryd rhan fel arfer, ond dewisir stondinau arlwyo a stondinau masnach perthnasol i gefnogi’r gymuned leol lle y bo’n bosibl.
Dolenni Defnyddio:
www.sheepdogchampionships.co.uk/bala
www.isds.org.uk
www.workingsheepdog.org
Pwyntiau Allweddol:
- Caiff rhestr llety ddrafft ei dosbarthu gan yr ysgrifennydd llety lleol. Mae ymwelwyr yn gwerthfawrogi’r rhestrau o ddarparwyr llety sy’n croesawu cŵn
- Mae’r cylchgrawn cŵn defaid rhyngwladol yn cynnig y cyfle i weithredwyr llety rannu hysbyseb tudalen lawn am gyfraddau isel
- Caiff cyfleusterau toiled ac arlwyo da eu hystyried fel elfennau pwysig er mwyn sicrhau llwyddiant y digwyddiad
- Er bod cyfleoedd marchnata a hysbysebu yn brin ar gyfer digwyddiadau arbenigol, mae annog codi arian a nawdd yn bwysig
- Mae rôl Ysgrifennydd y Pwyllgor yn gofyn am ddealltwriaeth ymarferol o’r digwyddiad a’r gallu i wneud penderfyniadau cyffredinol a gweithredu’n uniongyrchol gyda chytundeb y pwyllgor lleol
- Dewisir aelodau’r pwyllgor gydag amrywiaeth o brofiad yn agweddau gwahanol y digwyddiad ar gyfer y pwyllgor