Sicrhewch fod eich cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i chi’n hawdd ar y diwrnod trwy drefnu arwyddion cyfeirio clir.
Cysylltwch ag:
- Adran Priffyrdd eich Awdurdod Lleol
- Sefydliadau moduro
Bydd yr awdurdod lleol yn eich cynghori ynglŷn â materion cyfreithiol sy’n ymwneud â pha arwyddion y gellir eu defnyddio a ble y gellir eu gosod. Gall yr AA a’r RAC godi arwyddion cyfeirio dros dro. Sicrhewch fod eich arwyddion yn ddwyieithog, drwy gysylltu â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ( www.bwrdd-yr-iaith.org.uk) i gael cymorth a chyngor. Os ydych yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol darparu gwybodaeth mewn iaith arall, gall Sefydliad yr Ieithyddion/Institute of Linguists ( www.iol.org.uk) neu’r Sefydliad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd/Institute of Translation and Interpreting ( www.iti.org.uk) eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau ieithyddol.
Fel rheol gyffredinol, dylai eich digwyddiad:
- fod o leiaf 6-8 wythnos i ffwrdd
- cael lleoedd parcio digonol ar gyfer ymwelwyr
- bodloni meini prawf priffyrdd awdurdodau lleol.
Am ragor o fanylion cysylltwch â’r AA (www.theaa.com/aasigns/index.html?page=home) a’r RAC (www.racbusiness.co.uk/signs/temp_directional.do).
Pwyntiau Allweddol
- Cysylltwch ag Adran Priffyrdd eich Awdurdod Lleol
- Cysylltwch â’r AA neu’r RAC cyn gynted â phosibl
Gweler Hefyd:
2.4 Cyllideb Ddrafft
2.6 Datblygu cynllun marchnata
2.9 Datblygu cynllun cyhoeddusrwydd/cyfryngau
3.4 Cyllideb Derfynol