Nododd adrannau un a dau o’r Siart LLINELL AMSER bod angen mathau amrywiol o ganiatâd ar gyfer y digwyddiad, a disgrifiodd sut y dylid mynd ati i’w sicrhau.
Erbyn hyn dylech fod wedi:
- Cysylltu â’r swyddog priodol yn yr awdurdod perthnasol
- Cysylltu’r broses ganiatâd â’r Rhestrau gwirio Hysbysu 1.9 LLINELL AMSER
Sicrhewch fod yr aelod(au) o’r tîm sydd â chyfrifoldeb dros drefnu caniatâd yn rhoi Adborth rheolaidd i drefnydd yr ŵyl/digwyddiad a’r pwyllgor trefnu.
Pe bai oedi’n digwydd a all effeithio ar ddyddiad y digwyddiad neu gael effaith sylweddol arno, cysylltwch â phob aelod o’r tîm trefnu, a chytunwch ar gamau adferol.
Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’r awdurdod a fydd yn rhoi caniatâd. Gall gymryd cryn amser i dderbyn caniatâd ysgrifenedig, ond bydd rhai awdurdodau yn rhoi caniatâd ar lafar wedi i’r cais gael ei gymeradwyo.
Pwyntiau Allweddol:
- Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’r awdurdod perthnasol
- Rhowch wybod i’r pwyllgor am unrhyw broblemau posibl
- Holwch ynglŷn â chynnydd cais am ganiatâd
- Diweddarwch y Rhestr wirio Rhestr Hysbysu 1.9 LLINELL AMSER
Gweler Hefyd:
1.2 Ffurfio Pwyllgor
1.9 Sicrhau’r caniatâd angenrheidiol
1.12 Tîm Trefnu
Adran 4 Cynllun Wrth Gefn
Adran 6 Rhoi Digwyddiad Ar Waith - Cynllun Gweithredol
Adran 7 Rhestrau Cysylltiadau Rhanbarthol
Adran 7 Astudiaethau Achos