Gall y tywydd fod yn ffactor sy’n penderfynu a yw digwyddiad yn llwyddiant neu’n fethiant. Bydd cael y wybodaeth gywir cyn y digwyddiad yn caniatáu i chi roi cynlluniau wrth gefn ar waith pan fo angen.
Er nad ydych yn gallu newid y tywydd, gallwch drefnu o’i gwmpas drwy gael gwybodaeth ymlaen llaw.
Gwiriwch y rhagolygon lleol yn:
Mae’r Swyddfa Meteorolegol yn darparu rhagolygon lleol mwy manwl drwy linell ffôn cyfradd premiwm. Ceir rhagor o fanylion yn: www.met-office.gov.uk/services/wxcall/index.html.
Cynlluniau Wrth Gefn
Ystyriwch:
- lleoliad amgen os bydd yn bwrw glaw, e.e. neuadd bentref
- byrddau cerdded i orchuddio pyllau dŵr/mwd
- llogi esgidiau glaw/ymbarelau
- gwybodaeth ymlaen llaw i ymwelwyr e.e. newid lleoliad
- parcio ceir – tractorau i dynnu cerbydau a aiff yn sownd yn y mwd.
Pwyntiau Allweddol
- Cofiwch fod yn rhaid i chi ystyried y tywydd wrth gynllunio yng Nghymru
- Casglwch gymaint o wybodaeth ymlaen llaw ag sy’n bosibl
Gweler Hefyd:
1.7
Dod o hyd i leoliad
2.9 Datblygu Cynlluniau Cyhoeddusrwydd
3.5 Cadarnhau’r Cynlluniau Marchnata/Cyhoeddusrwydd
3.7 Datblygu Cynllun Gweithredu
4.3 Rheoli Trafnidiaeth
4.4 Cynllun Brys
6.1 Lleoliad
6.8 Trefniadau wrth gefn