Dylai’r cynlluniau marchnata a chyhoeddusrwydd fod wedi ei lansio’n llawn erbyn hyn, a dylech ddechrau gwerthuso cynnydd.
Edrychwch ar y cynlluniau marchnata/cyhoeddusrwydd ac addaswch/diwygiwch y cynlluniau fel bod angen.
Gwiriwch y wybodaeth ganlynol:
- Ydy’r dyddiad wedi ei gynnwys yn yr holl restrau digwyddiadau/dyddiaduron newyddion?
- Gwiriwch yr ymateb i’r datganiadau i’r wasg/Cyhoeddusrwydd
- Ewch ar drywydd y cysylltiadau a wnaed
- Ydy’r holl gamau marchnata wedi eu lansio – beth fu’r ymateb hyd yma?
- Mesurwch werthiant tocynnau ymlaen llaw/ymholiadau
Os nad yw’r ymateb cystal â’r disgwyl ac os yw’r gyllideb yn caniatáu, dyrannwch ragor o adnoddau.
Os ydych wedi canfod noddwyr, sicrhewch eu bod yn cael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r digwyddiad a bod eu gofynion yn cael eu diwallu.
Pwyntiau Allweddol:
- Mae’r gwaith o werthuso’r holl gynlluniau yn broses barhaus
- Dylech fod amser fod yn barod i addasu cynlluniau am resymau dilys
Gweler Hefyd:
2.6 Datblygu Cynlluniau Marchnata
2.8 Nawdd
2.9 Datblygu Cynlluniau Cyhoeddusrwydd
3.5 Cadarnhau’r Cynlluniau Marchnata/Cyhoeddusrwydd
3.6 Cadarnhau gwybodaeth noddwyr cyllid
Adran 7 Astudiaethau Achos