Mae cynllunio cysylltiadau cyhoeddus a gweithgareddau’r cyfryngau yn rhan bwysig iawn o’r gwaith o hyrwyddo delwedd a gwerthu cysyniad yr ŵyl neu’r digwyddiad. Dylech gynllunio a gweithredu'r rhain mor broffesiynol â phosibl a dyrannu adnoddau digonol.
Defnyddiwch eich cynllun marchnata i’ch helpu i benderfynu pa fath o sylw yr ydych yn bwriadu ei ddenu, a pha ardal ddaearyddol yr ydych eisiau ei thargedu:
- rhestrwch pa gyfryngau yr ydych am eu defnyddio i roi sylw i’ch digwyddiad (gweler y rhestrau cyswllt rhanbarthol)
- nodwch eich gohebydd/gohebwyr lleol
- cysylltwch â nhw gyda manylion cychwynnol ar gyfer eu dyddiaduron newyddion
Wedi i chi wneud cyswllt cychwynnol, cynlluniwch eich ymgyrch cyhoeddusrwydd ac ymgyrch y cyfryngau:
- darparwch y newyddion diweddaraf yn rheolaidd (e.e. artist/iaid a gontractiwyd)
- pwysleisiwch yr agweddau/elfennau gwahanol
- rhowch sylw i’ch noddwyr
- rhowch newyddion yn union cyn ac ar ôl y digwyddiad
Sicrhewch fod pob datganiad i’r wasg/cyswllt â’r cyfryngau yn werthfawr. Cofiwch y gall gormod o ddatganiadau i’r wasg a chysylltiadau â’r cyfryngau fod yn wrthgynhyrchiol.
Darparwch luniau i bapurau lleol. Er enghraifft, enillwyr cystadlaethau, digwyddiadau newydd/anarferol, pobl bwysig, seremoni agoriadol. Defnyddiwch ffotograffydd proffesiynol bob tro sydd wedi arfer â chyflenwi lluniau i’r wasg.
Mae cael sylw ar y radio/teledu yn anos, ond mae’n bosibl os oes gennych stori unigryw neu stori o ddiddordeb arbennig. Sicrhewch fod pwy bynnag a gyfwelir wedi eu briffio’n llawn ac yn ddigon hyderus i ymgymryd â’r math hwn o gyfweliad, rhywun sydd eisoes wedi rhoi cyfweliadau i’r cyfryngau os yn bosibl.
Pwyntiau Allweddol:
- Dylech gyfleu eich neges Cyhoeddusrwydd/Cyfryngau mewn modd proffesiynol
-
Byddwch yn realistig am y math o sylw y byddwch yn debygol o’i gael
-
Sicrhewch fod pawb y cyfwelir â hwy wedi’u briffio’n llawn
Gweler Hefyd:
2.4 Cyllideb
2.6 Datblygu Cynllun Marchnata
2.8 Nawdd
Adran 7 Astudiaethau Achos
Adran 7 Rhestrau Cysylltiadau Rhanbarthol