Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Mae nawdd masnachol yn ffactor fawr yn llwyddiant ariannol nifer o wyliau a digwyddiadau. Mae denu nawdd, ar lefel leol neu genedlaethol, yn faes cystadleuol iawn. Bydd angen i chi ddangos manteision pendant i’r noddwr.

Mae nodi darpar noddwyr yn gofyn am ymdrech, dyfalbarhad a chryn ddawn.

Efallai y gall rhai sefydliadau ddarparu nawdd ‘mewn da’. Gall hyn fod yr un mor ddefnyddiol ag arian parod er mwyn lleihau costau. Gosodwch dargedau realistig ar gyfer darpar noddwyr arian parod. Gall bod yn or-uchelgeisiol godi ofn ar ddarpar noddwyr llai.

Wedi i chi nodi’r diffyg yn y cyllid, penderfynwch os bydd yr ymdrech sydd ei hangen er mwyn dod o hyd i nawdd yn gymesur â’r manteision o gael yr arian.

Nodwch y manteision i’r noddwr. Er enghraifft:

  • hysbysebu yn y digwyddiad
  • logo/enw ar yr holl ddeunydd a gyhoeddir
  • logo/enw ar ddeunydd marchnata (e.e. crysau -T)
  • dolen wefan i’r noddwr
  • wedi ei gynnwys yn yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd
  • tocynnau am ddim i bobl bwysig
  • lle arddangos
  • dosbarthu samplau am ddim y noddwr
  • ychwanegu enw’r noddwr at deitl yr ŵyl/digwyddiad

Gall pwyllgor/rhwydwaith eich sefydliad helpu i nodi cysylltiadau a allai eich cyflwyno i ddarpar noddwyr. Mae bob amser yn haws dylanwadu ar sefydliad ar ôl cyflwyniad personol. Trefnwch i fynd i gyfarfod â darpar noddwyr a thrafodwch eu gofynion yn llawn.

Pan fydd noddwr wedi ymrwymo i’r digwyddiad, dylech ei gynnwys ym mhob cyhoeddusrwydd a rhoi’r newyddion diweddaraf iddynt.

Os ydych yn trefnu gŵyl neu ddigwyddiad mawr, ystyriwch ddefnyddio asiant nawdd. Gweler The Marketing Handbook www.marketinghandbook.co.uk am restr (cliciwch ‘Marketing Services’, wedyn ‘Sponsorship’) neu gofynnwch i’ch person Cysylltiadau Cyhoeddus eich hun.

Pwyntiau Allweddol

  • Sicrhewch fod y digwyddiad/gŵyl yn cyd-fynd â phroffil y darpar noddwr
    - Paratowch gyflwyniad proffesiynol
    - Nodwch y manteision pendant i’r noddwr
    - Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i’r noddwr

Gweler Hefyd:

1.1 Syniad/Cysyniad
1.2 Ffurfio pwyllgor
1.8 Sicrhau cyllid
2.4 Cyllideb ddrafft
2.6 Datblygu cynllun marchnata
2.9 Datblygu cynllun cyhoeddusrwydd/cyfryngau
3.5 Cadarnhau’r cynllun marchnata/cyhoeddusrwydd