Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Trefnwch artistiaid/perfformwyr yn gynnar, p’un a ydynt yn sêr rhyngwladol neu'n ddiddanwr plant lleol. Mae’r un peth yn wir am adloniant a thrwyddedigion, megis gwerthwyr hufen ia.

Artisiaid/Perfformwyr

Gall artist unigol neu grŵp o artistiaid/perfformwyr ffurfio holl gysyniad/thema eich gŵyl neu ddigwyddiad. Ni allwch fforddio cael hyn yn anghywir. Os mai dyma’r achos, defnyddiwch asiantaeth broffesiynol sy’n gallu ymdrin â’r gofynion manwl. Mae www.entsweb.co.uk/agencies yn darparu rhestr o asiantaethau rhyngwladol (yn cynnwys Cymru). Gall Cyngor Celfyddydau Cymru roi cyngor ac mae ganddo gronfa ddata perfformwyr celfyddydol ( www.artswales.org/default.asp a gweler y Rhestrau Cyswllt Rhanbarthol).

Adoloniant/Trwyddedigion

Mae’r rhain yn cynnwys reidiau mewn ffair, darparwyr prydau cyflym, a chestyll gwynt. Gallwch ddod o hyd i’r rhain drwy:

  • argymhelliad personol (e.e. trefnwyr digwyddiadau eraill)
  • Yellow Pages
  • rhyngrwyd (defnyddiwch chwilotwyr)

Mae gan sefydliadau masnach, megis y Showman’s Guild, restr am ddim o holl ddarparwyr ffeiriau pleser yn www.showmen.co.uk.

Wedi i chi benderfynu ar gyflenwr, anfonwch lythyrau cadarnhau a manylion archebu yn unol â’r Siart LLINELL AMSER.

Pwyntiau Allweddol:

  • Trefnwch mor bell ymlaen llaw ag sy’n bosibl yn ôl y gyfraith.
  • Gwiriwch fod pob cytundeb yn gywir ac wedi’i lofnodi.
  • Os yw plant yn rhan o’r perfformiadau, gwiriwch a dilynwch y gofynion ar gyfer caniatâd cyfreithiol.
  • Sicrhewch fod yr artist/perfformwyr yn gweddu i thema/cysyniad y digwyddiad.

Gweler Hefyd:

2.9 Datblygu Cynllun Cyfryngau/CC
3.5 Cynlluniau Marchnata/CC
5.1 Cadarnhau bod yr adloniant wedi’i drefnu
Adran 6 Rhoi’r Digwyddiad Ar Waith - Cynllun Gweithredol
6.3 Adloniant