Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Mae angen cynllun marchnata ar bob gŵyl a digwyddiad, waeth pa mor fach. Gall hwn fod yn syml iawn neu’n fwy manwl, yn dibynnu ar nifer yr ymwelwyr a ddisgwylir. Nid yw’n ddigonol hysbysu pawb o’r dyddiad a gosod arwydd mynediad. Mae angen i chi gynllunio ac yna gwerthuso eich cynllun marchnata.

Ystyriwch y canlynol wrth ddatblygu eich cynllun marchnata:

Cyffredinol

Y farchnad:Pwy ydych chi eisiau ei ddenu i’ch digwyddiad? A fyddwch yn eu denu fel cwsmeriaid sy’n talu?

Amcanion: Ystyriwch amcanion marchnata ‘CAMPUS’. (Gweler LLINELL AMSER Amserlen Gynllunio 1.3). Gosodwch dargedau ar gyfer niferoedd yr ymwelwyr, gwerthiant tocynnau, trosiant, elw gros (e.e. bwyd a bar/marchnata a thrwyddedigion).

SWOT: Mae dadansoddiad ‘SWOT’ yn offeryn defnyddiol er mwyn eich helpu i nodi’r Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythion sy’n gysylltiedig â’ch digwyddiad.

Mae’r strwythur ‘SWOT’ yn eich helpu i asesu cysyniad, amseriad, delwedd, lleoliad, ystod ac ansawdd cyfleusterau’r digwyddiad.

Cystadleuaeth: Dadansoddwch wyliau/digwyddiadau eraill tebyg. Dilynwch gynnydd eich prif gystadleuwyr (e.e. eu cysyniad, Cysylltiadau Cyhoeddus/marchnata, polisi prisio, ac ati).

Penodol

Ymchwil a Dadansoddiad o’r Farchnad: Ymchwiliwch i farchnadoedd Cymru/Prydain, ac os yn briodol, marchnadoedd tramor. Bydd hyn yn eich helpu i asesu pwy yw eich ymwelwyr presennol, ymwelwyr posibl ac ymwelwyr yn y dyfodol. Meddyliwch am darddiad, math o fusnes a diddordebau eich cwsmeriaid.

Darperir gwybodaeth ystadegol ddefnyddiol gan fyrddau croeso. Mae ystadegau twristiaeth cenedlaethol ar gael yn: www.staruk.org.uk. Mae Bwrdd Croeso Cymru yn darparu ystadegau ymchwil yn www.wtbonline.gov.uk (dilynwch y ddolen ‘ymchwil ac ystadegau’ yn y bar offer uchaf).

Marchnad Darged: Rhaid i bob digwyddiad a gŵyl, boed fawr neu’n fach, dargedu’r bobl sy’n fwy tebygol o ymweld â’r digwyddiad. Nodwch pa farchnadoedd sydd orau i chi. Er enghraifft:

Pa gyfran o’ch ymwelwyr sy’n dod o’r ardal leol?

Pa gyfran sy’n dwristiaid, a ble maent yn aros?

Ydy ymwelwyr yn dod fel teuluoedd neu fel parau heb blant?

Ydynt yn dod o un grŵp oedran neu gymysgedd?

Pa fath o bapur newydd maent yn tueddu i’w ddarllen?

Anghenion Ymwelwyr: ystyriwch ymwelwyr gydag anghenion/gofynion arbennig:

Gofynion dietegol arbennig - a fydd eich arlwywyr yn darparu ar gyfer y rhain?

Plant – a oes ardaloedd chwarae neu crèche?

A oes mynediad cadair olwyn/i’r anabl i’r lleoliad a’r cyfleusterau?

Mae gofal cwsmeriaid yn cynnwys cynllunio ar gyfer anghenion o’r fath, yn hytrach na dim ond bod yn gwrtais a chroesawgar.

Iaith: Ystyriwch pa ddarpariaeth iaith all fod yn briodol ar gyfer eich marchnad darged. Gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg (www.welsh-language-board.org.uk gynnig cymorth a chyngor. Os ydych yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol darparu gwybodaeth mewn unrhyw iaith arall, gall Sefydliad yr Ieithyddion/Institute of Linguists ( www.iol.org.uk ) neu’r Sefydliad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd/Institute of Translation & Interpreting ( www.iti.org.uk) eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau ieithyddol.

Cynllun Busnes a Chyllidebau: Mae nifer o werslyfrau yn datgan y bydd digwyddiad neu ŵyl sy’n gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol angen 10%-15% o drosiant. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gall fod angen i hyn fod yn uwch.

Cynlluniau Gweithgareddau Marchnata: Dylech greu cynlluniau gweithgaredd er mwyn dangos sut y bwriadwch ddenu busnes o’ch marchnadoedd targed.

  • Hysbysebu – ble, pryd, pa mor aml?
  • Post uniongyrchol – i bwy, gan ddefnyddio pa gronfa ddata, gan ddweud beth?
  • Rhyngrwyd – gwefan, e-bost?
  • Ffynonellau gwybodaeth – Canolfannau Croeso, rhestrau digwyddiadau, gweithredwyr llety, arwyddion.

Pwyntiau Allweddol:

  • Mae cynllun marchnata ysgrifenedig yn hanfodol
  • Bydd hwn yn eich helpu i dargedu eich adnoddau yn effeithiol
    - Bwydwch wybodaeth farchnata yn raddol, gan gynyddu yn agosach at ddiwrnod y digwyddiad

Gweler Hefyd:

1.10 Gwiriwch rwymedigaethau cyfreithiol
2.2 Sicrhau y caiff y dyddiad ei gynnwys mewn rhestrau digwyddiadau
2.4 Cyllideb ddrafft
2.9 Datblygu cynllun cyhoeddusrwydd/cyfryngau
2.10 Gwefan
Adran 7 Astudiaethau Achos