Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Mae pob trefnydd yn gobeithio bydd y digwyddiadau a drefnir ganddynt yn rhedeg yn ddidrafferth, ond mae’n bwysig cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd. Mae gan drefnwyr digwyddiadau ‘Ddyletswydd Gofal’ tuag at eu gweithwyr, gwirfoddolwyr, contractwyr a chwsmeriaid. Mae yswiriant digonol yn rhan o’ch ‘Dyletswydd Gofal’ ac ymrwymiadau cyfreithiol.

Os ydych yn trefnu digwyddiad o fewn sefydliad sydd eisoes yn bodoli, sicrhewch fod y polisïau yswiriant presennol yn cwmpasu’r digwyddiad.

Gwiriwch bolisïau yn fanwl a sicrhewch fod y tîm trefnu yn ymwybodol o unrhyw eithriadau.

Gwiriwch fod yr yswiriant yn cyd-fynd â deddfwriaeth bresennol. Mae newidiadau i’r gyfraith yn digwydd o bryd i’w gilydd ac efallai na fydd eich brocer/cwmni yswiriant yn ymwybodol ohonynt bob tro. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio hyn. Sicrhewch fod yr holl staff, yn cynnwys contractwyr, isgontractwyr a staff hunan gyflogedig wedi eu cynnwys yn eich polisi neu fod ganddynt eu sicrwydd atebolrwydd cyhoeddus eu hunain.

Sicrhewch fod gennych yswiriant ar gyfer y canlynol:

  • atebolrwydd cyhoeddus ac atebolrwydd cyflogwyr
  • colli arian/derbynebau
  • canslo (e.e. artistiaid)
Mae gan BIBA, corff masnach broceriaid yswiriant, gronfa ddata y gellir ei chwilio yn www.biba.org.uk/consumer/findbroker.asp. Efallai y gall trefnwyr gwyliau a digwyddiadau eraill argymell brocer/cwmni yswiriant.

Pwyntiau Allweddol:
  • Peidiwch byth â chwtogi ar yswiriant.
  • Dylech bob amser gael sawl dyfynbris.
  • Darllenwch a gwiriwch yr yswiriant yn ofalus cyn ei dderbyn.
  • Gwiriwch fod pob atebolrwydd wedi ei gynnwys.

Gweler Hefyd:

1.9 Sicrhau’r caniatâd angenrheidiol
1.10 Gwirio Rhwymedigaethau Cyfreithiol
2.4 Cyllideb Drafft
3.4 Cyllideb Derfynol
2.7 Dechrau trefnu artistiaid
7.2 Astudiaeth Achos – Dyn v Ceffyl