Mae nifer o wyliau a digwyddiadau sy’n cystadlu am sylw ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Wedi i chi gadarnhau’r dyddiad, mae’n hanfodol i chi ei gynnwys mewn rhestrau argraffedig ac ar-lein.
Mae nifer o fathau o restrau gwyliau/digwyddiadau. Mae cael eich digwyddiad yn y rhestrau yn rhan bwysig o weithgaredd cynnar Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus.
Sicrhewch fod y wybodaeth ganlynol wrth law gennych:
- dyddiad/au
- teitl y digwyddiad
- lleoliad
- amser (e.e. 10.30 -17.30)
- manylion cyswllt
- cyfeiriad y wefan os caiff ei defnyddio
- disgrifiad byr o’r ŵyl/digwyddiad
Cysylltwch â’r canlynol:
- papurau newydd lleol a chyfryngau eraill
- Awdurdod Lleol
- Canllawiau digwyddiadau
- Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol a wtbonline
- www.whodoiask.com
- Canolfannau Croeso
Sicrhewch eich bod yn darparu gwybodaeth ddiwygiedig os bydd y manylion yn newid.
Pwyntiau Allweddol:
- Dylech sicrhau y caiff eich dyddiad ei gynnwys yn y rhestrau digwyddiadau mor bell ymlaen llaw ag sy’n bosibl
-
Sicrhewch fod y wybodaeth a gyhoeddir yn gywir
-
Os oes unrhyw newidiadau/diweddariadau, sicrhewch fod pawb yn diwygio eu cofnodion
Gweler Hefyd:
1.4 Ymchwilio, Gwirio a Phennu Dyddiad
1.12 Cysylltu ag Atyniadau/digwyddiadau eraill
2.10 Gwefan
Adran 7 Rhestrau Cyswllt Rhanbarthol
Adran 7 Astudiaethau Achos