Yn y farchnad bresennol, presenoldeb ar y we yw’r ffenestr siop orau ar gyfer eich gŵyl neu ddigwyddiad. Cofiwch nad yw’r un math o wefan yn addas ar gyfer pob digwyddiad. Sicrhewch fod eich gwefan yn addas ar gyfer eich digwyddiad.
Os penderfynwch ddefnyddio’r rhyngrwyd i farchnata eich digwyddiad, dylech gynnwys hyn yn eich Cynllun Marchnata. Nid oes rhaid i wefan gostio’n ddrud.
Os bydd eich tîm/pwyllgor trefnu yn rhan o sefydliad mwy, efallai y gall eich adran TGCh eich helpu i sefydlu gwefan ar gyfer yr ŵyl/digwyddiad.
Peidiwch â gadael i’r syniad o ddatblygu gwefan godi ofn arnoch. Gall fod yn broses haws nag y mae’n ymddangos. Dylech integreiddio’r broses i’ch cynllun marchnata, a chymhwyso’r un broses ar gyfer gwneud penderfyniadau ag a gymhwysir ar gyfer unrhyw fuddsoddiad arall.
Dilynwch dair egwyddor allweddol cynllunio gwefan:
- eglurder
- cyfathrebu
- cysondeb
(Dainty 2003 gdainty@uwic.ac.uk)
Eglurder
I ddechrau, byddwch yn eglur am bwrpas y wefan, fel bod cwsmeriaid yn deall beth yr ydych yn ceisio ei ddweud wrthynt.
Yn syml, mae gwefannau yn llyfrynnau, siopau neu bwyntiau gwybodaeth ar-lein.
Gallwch ddechrau drwy ddatblygu llyfryn ar-lein syml. Gall hwn ddweud wrth gwsmeriaid pwy ydych chi, pa ŵyl/digwyddiad yr ydych yn ei gynnig, a sut y gallant gysylltu â chi.
Meddyliwch yn EGLUR ynglŷn â pha sgiliau, amser, arian ac offer sydd eu hangen i gynllunio’r wefan. A allech chi wneud hyn eich hunan, neu a fyddai’n well cyflogi cynlluniwr gwefannau proffesiynol? Mae canolfannau cymorth am ddim a chyrsiau ar gael yn: www.businesseye.org.uk ffôn: 08457 969798 neu cysylltwch â Darparwyr Gwasanaethau’r Rhyngrwyd.
Cyfathrebu
Cyfathrebu yw nod gwefannau. Dylai eich gwefan fod yn syml ac yn hawdd i’w defnyddio. Peidiwch â defnyddio gormod o luniau, a chadwch wybodaeth bwysig yn uchel ar y dudalen. Dylech osgoi ‘annibendod’ megis eiconau sy’n fflachio, seiniau digrif, cerddoriaeth a fideos.
Dylech chi neu wefeistr penodedig ddiweddaru’r wefan yn rheolaidd. Cynhwyswch ddolenni e-bost fel y gall pobl ofyn am lyfrynnau, ac ystyriwch a allech dderbyn archebion ar-lein. Mae’r Ddeddf Amddiffyn Data yn rheoli sut yr ydych yn cadw/rheoli a defnyddio data personol pobl, yn cynnwys enwau a chyfeiriadau. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yn www.informationcommissioner.gov.uka dylech sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r canllawiau hyn.
Efallai y byddwch hefyd am ystyried pa mor hygyrch yw eich gwefan i bobl anabl, er enghraifft, pobl â nam ar eu golwg. Mae cysylltiadau diddorol ynglŷn â’r maes hwn i’w cael yn: www.rnib.org.uk
Cysondeb
Mae’n hanfodol bod delwedd y wefan yn gyson â’ch dulliau busnes a deunydd marchnata. Sicrhewch fod y dulliau gwe-lywio yn gyson ac yn hawdd i’w dilyn.
Bydd angen i chi ystyried materion eraill, yn cynnwys:
- meddalwedd a chaledwedd cyfrifiadurol
- dewis cynhaliwr ar gyfer eich gwefan
- defnyddio eFasnach mewn busnes
- defnyddio chwilotwyr
Os ydych yn cynllunio gwefan am y tro cyntaf, byddai cwrs sylfaenol ar farchnata ar y we yn amhrisiadwy.
Pwyntiau Allweddol
- Penderfynwch beth ydych chi eisiau i’r wefan ei wneud
- Meddyliwch yn ofalus am adnoddau a sut i’w datblygu
- Cysylltwch â sefydliadau fel Llygad Busnes (www.businesseye.gov.uk) i gael cyngor cychwynnol
- Dechreuwch yn syml – gallwch ddatblygu’r wefan ymhellach maes o law
Gweler Hefyd:
2.2 Sicrhau y caiff y dyddiad ei gynnwys mewn rhestrau digwyddiadau
2.4 Cyllideb ddrafft
2.6 Datblygu Cynllun Marchnata
2.9 Datblygu cynllun cyhoeddusrwydd/cyfryngau
3.5 Cadarnhau’r cynllun marchnata/cyhoeddusrwydd