Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Er mwyn rhedeg gŵyl yn effeithlon mae angen tîm rheoli/trefnu gyda strwythur cadarn.

P’un a yw eich digwyddiad yn fach neu’n fawr, wedi ei redeg gan wirfoddolwyr neu swyddogion taledig, sicrhewch ei fod yn rhedeg yn rhwydd drwy gadarnhau o’r dechrau pwy sydd ar y pwyllgor/tîm a beth yw eu swyddogaethau unigol.

Rhaid ymdrin â swyddogaethau trefnu penodol:

  • cyllid/ariannu
  • Iechyd a Diogelwch
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • trefn/rheolaeth y lleoliad
  • cyfreithiol/contractau

Rhaid dyrannu pob swyddogaeth unigol a amlinellir yn y siart LLINELL AMSER i un o’r prif gategorïau uchod.

Cyn i chi ddyrannu unigolion i’r swyddogaethau hyn, ystyriwch:

  • sgiliau a chymwysterau unigol
  • argaeledd amser
  • hoffterau’r unigolyn

O fewn sefydliad presennol efallai y gallech ddyrannu swyddogaethau i swyddogion presennol gyda chyfrifoldebau tebyg.

Mewn sefydliad gwirfoddol, ystyriwch gyfethol unigolion gyda sgiliau priodol, e.e. cyfreithwyr, cyfrifwyr, er mwyn caniatáu i’r pwyllgor trefnu ganolbwyntio ar weithredu’r ŵyl/digwyddiad.

Pwyntiau Allweddol:
  • Cadwch y prif Bwyllgor Trefnu mor fach â phosibl
    - Adeiladwch ar gryfderau unigol wrth ddyrannu cyfrifoldebau
    - Cyfetholwch arbenigwyr os ydynt ar gael
    - Sefydlwch broses gyfathrebu effeithlon rhwng aelodau’r pwyllgor

Gweler Hefyd:

1.2 Ffurfio Pwyllgor
1.11 Tîm Trefnu
Adran 6 Rhoi Digwyddiad Ar Waith - Cynllun Gweithredol