Gofynnwch am Adborth gan y cyhoedd, artistiaid, staff a phawb a gymerodd rhan. Cadwch gofnodion ar gyfer gwelliant y tro nesaf, er enghraifft, yn rolau/cyfrifoldebau, rhestrau gwirio a sesiynau briffio staff (Gweler Siart LLINELL AMSER).
Ceisiwch ennyn cefnogaeth ar gyfer eich digwyddiad nesaf drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad.
Meddyliwch am ddefnyddio’r dulliau canlynol i gasglu Adborth:
- holiadur i’w ddosbarthu yn y digwyddiad i’w gwblhau yn unigol neu gan gyfwelydd
- casglu gwybodaeth dros y ffôn
- sesiynau Adborth
Gall y meini prawf canlynol eich helpu i werthuso digwyddiad:
- A wnaeth yr ŵyl/digwyddiad gyflawni ei nodau ac amcanion?
- Nodi esiamplau o arfer da.
- Ystyried materion a godwyd gan staff ar gyfer gwelliant y tro nesaf
- A oedd nifer yr ymwelwyr mor uchel â’r disgwyl, ac os nad oedd, paham?
- A oedd y cynlluniau brys a’r cynlluniau wrth gefn yn ddigonol?
- A oedd Adborth ffurfiol/anffurfiol ynglŷn â’r digwyddiad yn gadarnhaol?
Dathlwch lwyddiant yr ŵyl/digwyddiad gyda rhyw fath o ddiolch i bawb a gymerodd rhan. Er enghraifft, gallwch ystyried cynnal parti, anfon llythyrau o ddiolch neu rywbeth tebyg. Cynhwyswch wirfoddolwyr, noddwyr, artistiaid/perfformwyr, masnachwyr, gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol, tirfeddianwyr, y cyfryngau, pwyllgor trefnu, staff y banc/cymdeithas adeiladu perthnasol a phawb o oedd wedi helpu gyda’r digwyddiad.
Pwyntiau Allweddol:
- Casglwch Adborth cyn gynted â phosibl tra bod y manylion dal yn glir ym meddyliau pobl
- Rhowch ddiolch i bawb drwy lythyr/e-bost, neu, os yw’n bosibl, parti i’r staff
- Diweddarwch yr holl gofnodion ar unwaith
- Cwblhewch yr holl daliadau a chau’r cyfrifon
- Pennu dyddiad y digwyddiad nesaf a sicrhau y caiff ei gynnwys yn nyddiaduron a rhestrau digwyddiadau
Gweler Hefyd:
Adran 7 Astudiaethau Achos
8.1 Cwblhau’r Cyfrifon
8.2 Pennu Dyddiad y Digwyddiad Nesaf
8.3 Adborth i Noddwyr/Cyllidwyr
8.4 Cyhoeddusrwydd Terfynol
Gwirio yn erbyn y Siart LLINELL AMSER
Siart LLINELL AMSER (i ddechrau’r digwyddiad nesaf)