Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen

 

Dylai trefnydd yr Ŵ yl a’r Digwyddiadau gadarnhau dyddiad y digwyddiad nesaf cyn gynted â phosibl, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau blynyddol.

Sicrhewch y caiff y dyddiad ei gynnwys yn y dyddiaduron a’r rhestrau digwyddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol priodol.

Bydd eich ymgyrchoedd marchnata a chyhoeddusrwydd yn elwa ar osod y dyddiad yn gynnar yn nyddiaduron, a rhestrau digwyddiadau cyhoeddedig ac ar-lein. Mae hefyd yn galluogi artistiaid/ perfformwyr, gwirfoddolwyr, yr Heddlu, Partneriaethau Twristiaeth Lleol, Canolfannau Croeso, yr Awdurdod Lleol, masnachwyr ac eraill i gadw’r dyddiad yn rhydd er mwyn cymryd rhan. Gweler Siart LLINELL AMSER 1.4, 2.1, 2.2.

Trwy bennu’r dyddiad, rydych yn annog cynllunio a threfnu cynnar. Mae hyn yn eich galluogi i adolygu’r digwyddiad diwethaf a chywiro neu weithredu materion a godwyd gan y cyfranogwyr. Bydd hefyd amser gennych i ddiweddaru caniatâd, trefnu yswiriant a dechrau’r broses gyllido (Gweler siart LLINELL AMSER).

Os cewch broblemau sylweddol, er enghraifft trefnu yswiriant neu gyllido’r digwyddiad, mae digon o amser i ganslo os oes rhaid.



Pwyntiau Allweddol:

  • Cadarnhau dyddiad y digwyddiad nesaf gyda’r Awdurdod Lleol, Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol a’r Gwasanaethau Brys
  • Dechreuwch y broses gynllunio ar unwaith, a diweddarwch ganiatâd ac yswiriant

Gweler Hefyd:

Adran 1 Amserlen
Adran 2 Nodi/Ymchwilio
Adran 3 Cynllun Rheoli
Adran 4 Cynllun Digwyddiadau Wrth Gefn
Adran 6 Rhoi’r Digwyddiad ar Waith-Cynllun Gweithredol
Adran 7 Astudiaethau Achos