Selwedd yn cynnwys logos y Bwrdd Croeso a Llywodraeth y Cynulliad
Dychwelyd i'r Dudalen Gartref   Mynegai'r Adran | Adborth | <Yn ôl | Nesaf>
 
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran y rhagair
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran Llinell Amser
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran adnabod
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran cynllun rheoli
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran cynlluniau at raid digwyddiad
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i adran perfformwyr
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gweithredu
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran diwylliant cenedlaethol
Cliciwch ar y ddelwedd hon i fynd i'r adran gwerthuso

Y ddelwedd hon yw'r testun pen y tudalen



Gall cyrraedd digwyddiad, parcio, a gadael ar ei ddiwedd achosi rhwystredigaeth i ymwelwyr. Bydd gan ddigwyddiad sydd wedi ei redeg yn broffesiynol gynllun trafnidiaeth cadarn.

Bydd angen i Adran Priffyrdd eich Awdurdod Lleol gymeradwyo cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer digwyddiadau newydd, yn enwedig mewn lleoliadau awyr agored. Mae hefyd yn synhwyrol hysbysu’r heddlu lleol a gofyn iddynt am gyngor.

Bydd cynllunio arwyddion da, a’u lleoli’n dda, yn eich helpu i reoli mannau parcio priodol yn cynnwys mynediad i ymwelwyr anabl. (Gall cymdeithasau anabledd lleol gydweithio â chi ar hyn.)

Ystyriwch:

  • capasiti’r mannau parcio
  • addasrwydd y safleoedd parcio - gall tywydd gwael achosi trafferthion ychwanegol
  • stiwardiaid hyfforddedig i gyfeirio pobl at y mannau parcio cywir
  • rheoli pobl wrth adael yn ogystal ag wrth gyrraedd – argaeledd stiwardiaid
  • gwybodaeth ymlaen llaw ynglŷn â pharcio a chyfeiriadau mewn deunydd hyrwyddo/ar y wefan
  • rheoli ymwelwyr ar ôl iddynt barcio’u ceir – arwyddion da
  • system gyfathrebu ar gyfer stiwardiaid.

Ystyriwch gynnal ‘ymarferiad’ gyda stiwardiaid a gwiriwch:

  • fod yr arwyddion yn gywir ac yn cyfeirio pobl i’r mannau cywir
  • capasiti’r mannau parcio
  • pwy sy’n gwneud beth
  • y mannau cywir i barcio

Pwyntiau Allweddol:

  • Cysylltwch â’r Adran Priffyrdd a’r heddlu lleol.
  • Gwiriwch fod yr arwyddion yn glir ac yn gryno.
  • Hyfforddwch stiwardiaid ymlaen llaw.
  • Cynhaliwch ‘ymarferiad’

Gweler Hefyd:

2.3 Dechrau’r Broses o Sicrhau Caniatâd
2.6 Datblygu Cynllun Marchnata
2.9 Datblygu cynllun cyhoeddusrwydd/cyfryngau
2.10 Gwefan
3.3 Gwneud cais am arwyddion
3.5 Cadarnhau’r cynllun marchnata/cyhoeddusrwydd
3.7 Datblygu Cynllun Gweithredu
6.4 Staff/Hyfforddiant
Adran 7 Astudiaethau Achos