Fel trefnydd gŵyl/digwyddiad, mae’n rhaid i chi gynnal asesiad risg. Mae hyn yn rhan o’ch ‘dyletswydd gofal’ i’ch holl staff, gwirfoddolwyr, perfformwyr, trwyddedigion, contractwyr a’r cyhoedd.
Mae’n rhaid i chi nodi ac ymdrin â risgiau posibl cyn y digwyddiad er mwyn cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn amlinellu pum cam asesu risgiau:
- Nodwch y peryglon.
- Penderfynwch pwy allai gael ei niweidio, a sut.
- Gwerthuswch y risgiau a phenderfynwch a yw'r camau diogelu sydd eisoes wedi eu gweithredu yn ddigon i ddelio â'r risgiau neu a ddylid cymryd rhagor o gamau;
- Cofnodwch eich canfyddiadau.
- Adolygwch eich asesiad o bryd i'w gilydd a'i ddiwygio os bydd angen.
Gallwch lwytho taflenni gwybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ddim yn www.hse.gov.uk/risk/index.htm neu ffoniwch 08701 545500.
Os ydych yn rhan o awdurdod lleol neu sefydliad mwy, gall eich Adran Iechyd a Diogelwch eich cynghori ynglŷn ag asesu risgiau. Os ydych yn llogi lleoliad ar gyfer yr ŵyl/digwyddiad, gwiriwch beth sydd wedi ei gynnwys gan asesiad risgiau ac yswiriant y gweithredwr a gofynnwch am gopi.
Pwyntiau Allweddol
- Dynodwch rywun yn y tîm i gymryd cyfrifoldeb penodol dros hyn
- Sicrhewch fod pob aelod o’r tîm yn deall y broses asesu risg
- Peidiwch a gorgymlethu pethau - dilynwch ganllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Gweler Hefyd:
1.7 Dod o hyd i leoliad
2.1 Cadarnhau pwy sy’n gwneud beth
2.5 Yswiriant
3.7 Datblygu cynllun gweithredu
4.2 Iechyd, Diogelwch a Diogeledd
Adran 7 Astudiaethau Achos